Digwyddiad - Gwybodaeth Menywod mewn Plismona

Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol

Heddlu Gwent
Swyddi Swyddogion Heddlu yn y Dyfodol

Ydych chi erioed wedi cael eich ysbrydoli i ymuno â’r heddlu ond ddim yn siŵr os yw’n addas ar eich cyfer chi? Eisiau gwybod mwy am sut mae Heddlu Gwent yn cefnogi menywod mewn plismona er mwyn iddynt symud ymlaen at rolau arbenigol?

Rydyn ni’n cynnal digwyddiad anffurfiol i roi cyfle i chi gwrdd â rhai o’n swyddogion benywaidd a chlywed mwy am eu profiad yn y maes plismona.

Cewch glywed gan ein swyddogion benywaidd o wahanol rengoedd sy’n cydbwyso gyrfa brysur a llwyddiannus gyda bywyd teuluol, a gan swyddogion sydd wedi symud ymlaen at rolau arbenigol.

Cewch gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am faterion sy’n eich rhwystro chi rhag ymuno â’r heddlu a dysgu mwy am sut i ymuno â theulu Heddlu Gwent.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa amrywiol, cyffrous a boddhaus, nawr yw’r amser i ddysgu mwy am blismona a chymryd y cam cyntaf!

I gadw lle yn ein digwyddiad Menywod mewn Plismona, nos Fawrth 31 Mai 2022, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ ar waelod y dudalen hon.

Pan fyddwch wedi cadw eich lle, cewch ragor o wybodaeth gennym ni gan gynnwys amser a lleoliad y digwyddiad.

Sylwer – dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar gyfer y sesiwn hwn felly cyntaf i’r felin amdani!

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.