Digwyddiad – Gwybodaeth Recriwtio Cwnstabliaid Heddlu

Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol

Heddlu Gwent
Swyddi Swyddogion Heddlu yn y Dyfodol

Eisiau dilyn gyrfa mewn Plismona fel Swyddog Heddlu ond ddim yn siŵr sut i fynd o’i chwmpas hi? Dewch draw i’n Sesiwn Ymwybyddiaeth am ddim, nos Fawrth 7 Mehefin 2022.

Byddwn yn cynnal digwyddiad anffurfiol er mwyn i chi gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i gael gyrfa lwyddiannus gyda Heddlu Gwent.

Cewch glywed gan siaradwyr amrywiol, o aelodau ein tîm recriwtio ac ymgysylltu profiadol i’n swyddogion sy’n gwasanaethu ar wahanol rengoedd.

Byddwn yn dweud wrthych chi beth sydd ei angen er mwyn bod yn swyddog gwych yn Heddlu Gwent, esbonio’r broses recriwtio, sut gallwn eich cefnogi chi yn ystod y broses recriwtio ddechreuol a sut byddwn yn parhau i’ch cefnogi trwy gydol eich gyrfa. Cewch awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu chi i gyflwyno cais llwyddiannus i Heddlu Gwent hefyd.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa amrywiol, cyffrous a boddhaus, nawr yw’r amser i ddysgu mwy am blismona a chymryd y cam cyntaf!

I gadw lle yn ein digwyddiad Gwybodaeth Recriwtio Cwnstabliaid Heddlu, nos Fawrth 7 Mehefin 2022, cliciwch y botwm ‘Gwneud cais’ ar waelod y dudalen hon.

Pan fyddwch wedi cadw eich lle, cewch ragor o wybodaeth gennym ni gan gynnwys amser a lleoliad y digwyddiad.

Sylwer – dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar gyfer y sesiwn hwn felly cyntaf i’r felin amdani!

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.