Cynorthwyydd Iechyd a Diogelwch

Heddlu Gwent
Staff Heddlu
Gwasnaethau Pobl
Iechyd Galwedigaethol a Diogelwch
Vantage Point
SC6
£26208 - £28023
Llawn Amser
37
Parhaol
1

24/09/20 13:00

Yn cefnogi gweithiwr Iechyd a Diogelwch Siartredig, byddwch yn darparu gwasanaeth cymorth iechyd a diogelwch cynhwysfawr, yn gweithio i sicrhau bod y llu yn cydymffurfio a’i holl rwymedigaethau. Mae’r swydd yn cynnig cyfle i’r unigolyn weithio mewn tîm gwych mewn amgylchedd heriol a difyr. Bydd gennych brofiad o ddarparu cyngor iechyd a diogelwch ymarferol, cynnal asesiadau risg ar draws amgylchoedd gwaith amrywiol, cynnal archwiliadau, ymchwilio a darparu datrysiadau i broblemau iechyd a diogelwch, paratoi ystadegau ac adroddiadau a gweinyddu systemau rheoli gwybodaeth iechyd a diogelwch. Byddwch yn ymchwilio i ddamweiniau, datblygu polisïau a gweithdrefnau a monitro contractwyr.    

Gan y bydd y llu yn symud i safle Pencadlys newydd yn y dyfodol agos, mae’r swydd yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus ymuno ar adeg gyffrous i’r llu.

Byddwch yn gymwys i lefel Tystysgrif Gyffredinol NEBOSH (NVQ Lefel 3) neu gyfatebol a byddwch yn gweithio tuag at ennill NVQ Lefel 5/6, neu’n awyddus i wneud hynny. Os gallwch chi gydbwyso’r gwaith o alluogi ein hymrwymiadau gweithredol gydag amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau, gan leihau’r risgiau i’n swyddogion a staff heddlu ar yr un pryd, ac os ydych chi’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd cefnogol, diddorol a heriol, cysylltwch â ni.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth yn y rhannau o’r fanyleb person sy’n nodi ‘ffurflen gais’ a sylwch ar y cyfrif geiriau ar gyfer pob maes.

Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu’r maes nesaf, dewiswch ychwanegu enghraifft arall ar gyfer pob maes sy’n ofynnol ar fanyleb person.

Cyfeiriwch at y canllaw defnyddwyr i ymgeiswyr ar y wefan hefyd sy’n rhoi mwy o fanylion ynghylch sut i lunio eich atebion.

Rydym yn talu Cyflog Byw i’n holl staff cyflogedig a staff asiantaeth sy’n gweithio gyda ni.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.