Prif Arolygydd yr Heddlu Gwirfoddol

Heddlu Gwent
Gwirfoddolwyr
Gwasanaethau Plismona Lleol Canolog
Plismona Ardal Leol - Heddlu Gwirfoddol
Ledled yr Heddlu
Arall
4
Gwirfoddolwr
1

18/06/20 13:00

Fel Prif Arolygydd yr Heddlu Gwirfoddol byddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn cyflawni'r blaenoriaethau plismona ar gyfer Gwent. Byddwch yn ymuno ar adeg pan mae newid mawr yn cael ei roi ar waith, ac mae cefnogaeth a datblygiad yn cael cryn sylw ar yr agenda. Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeiswyr sy'n dangos y gwerthoedd sy'n allweddol i blismona.
Yr Heddlu Gwirfoddol yw adran rhan amser, gwirfoddol lluoedd heddlu'r DU. Mae Heddlu Gwirfoddol yn swyddogion â gwarant sy'n rhoi cymorth ychwanegol i swyddogion heddlu arferol.

 

Bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth i Brif Swyddog yr Heddlu Gwirfoddol i redeg yr Heddlu Gwirfoddol yn effeithlon, i arwain ac ysgogi tîm o gwnstabliaid gwirfoddol, rhingylliaid gwirfoddol ac arolygwyr gwirfoddol, gan sicrhau bod gwasanaethau plismona amrywiol yn cael eu darparu a bod safonau sefydliadol yn cael eu cynnal.


Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, ffoniwch 01633 642212 neu anfonwch e-bost at centralrecruitment@gwent.pnn.police.uk

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.