Cwnstabl Heddlu (09/19)
16/09/19 13:00
Heddlu Gwent – Rydym yn recriwtio swyddogion heddlu yn awr!
Gweithio yn: Heddlu Gwent, trwy ardal gyfan y Llu
Dyddiad cau: Dydd Llun 2 Medi am 13:00
Graddfa Gyflog: Dechrau ar £20,880, codi i £40,128 o fewn wyth mlynedd
Mae Heddlu Gwent eisiau recriwtio Cwnstabliaid newydd ar gyfnod prawf. Fel Cwnstabl Heddlu mae pob diwrnod yn wahanol, gyda heriau gwahanol ac mae'n gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i'r gymuned. Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig ac ymroddedig a fydd yn rhannu ein gweledigaeth; i ddeall ac ymateb i anghenion y gymuned yn y ffordd orau posibl; i amddiffyn y bobl fwyaf bregus, dal troseddwyr a chadw'r cyhoedd yn ddiogel, gan ymddwyn yn ôl y Cod Moeseg Plismona a gwerthoedd Heddlu Gwent.
Gofynion
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed pan fyddant yn cyflwyno cais.
- Rhaid bod gan ymgeiswyr drwydded yrru lawn (nid trwydded ar gyfer cerbyd awtomatig) cyn i lythyr o gynnig gael ei gyflwyno.
- Cyfeiriwch at yr adran Cwestiynau Cyffredin ar y wefan am ragor o fanylion.
Sylwer - os byddwch yn llwyddo yn yr asesiadau ar-lein bydd gofyn i chi fod ar gael ar y dyddiadau canlynol:
Y Ganolfan Asesu: w/d 18 Tachwedd 2019
Cyfweliadau: w/d 16 Rhagfyr 2019
Prawf Ffitrwydd: Ionawr 2020
Prawf Cyffuriau a Phrofi Biometrig: Ionawr 2020
Gwiriad Iechyd: Ionawr/Chwefror 2020
Byddwn yn derbyn yr ymgeiswyr llwyddiannus cyntaf ym mis Mawrth 2020
Angen rhagor o wybodaeth?
Bydd dau sesiwn ymwybyddiaeth yn cael eu cynnal a gallwch gadw lle ar un ohonynt:
Dydd Mercher 4 Medi 18:00
Dydd Sadwrn 14 Medi 09:30
Pwrpas y rhain yw rhoi gwybodaeth i chi am y broses recriwtio, y swydd, hyfforddiant a mwy. Sicrhewch eich bod yn anfon e-bost at centralrecruitment@gwent.pnn.police.uk i gadw lle, gan nodi pa sesiwn yr hoffech ei fynd iddo a'ch enw llawn.
I gael sesiwn ymwybyddiaeth yn Gymraeg, anfonwch e-bost at Catherine.Baldwin@gwent.pnn.police.uk Cynhelir y sesiwn hwn ar 11eg Medi 2019
Sylwer: Trwy gydol y broses gyfan bydd ymholiadau a gohebiaeth gan gynnwys dogfennau yn cael eu derbyn a'u hanfon gan centralrecruitment@gwent.pnn.police.uk
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o grwpiau amrywiol neu leiafrifol heb gynrychiolaeth ddigonol yn y llu. I ddysgu mwy, cysylltwch â diversityandinclusion@gwent.pnn.police.uk
I gael manylion am y swydd a'r broses cyn y sesiwn ymwybyddiaeth: https://gwent.police.uk/cy/ymunwch-a-ni/swyddogion-yr-heddlu/swyddogion-yr-heddlu/
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.