Pennaeth Strategaeth Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Heddlu Gwent
Staff Heddlu
Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Pencadlys Heddlu Gwent
POM
£45,996 - £49,182
Llawn Amser
37
Parhaol
1

22/04/21 13:00

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent yn chwilio am Bennaeth Strategaeth i ymuno â’n tîm proffesiynol ac arloesol. Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig a brwd i arwain ein gwaith yn gweithredu’r blaenoriaethau strategol a amlinellir yn y Cynllun Heddlu a Throseddu. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau dull o fonitro perfformiad sy’n seiliedig ar ganlyniadau. Bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu ein cydberthynas bresennol gyda Heddlu Gwent ac amrywiaeth eang o bartneriaid ar draws pob sector. Mae hon yn swydd allweddol ac rydym yn chwilio am ymgeiswyr gyda phrofiad helaeth o weithio â phartneriaid ar lefel uwch, sy’n meddwl yn strategol ac sy’n gallu cyfathrebu materion cymhleth yn glir. Dyma gyfle ardderchog i gyfrannu at gael canlyniadau cadarnhaol ar gyfer ein cymunedau a dioddefwyr trosedd, yn ogystal â dylanwadau ar strategaeth troseddwyr.

Os hoffech drafod y swydd cyn cyflwyno cais, cysylltwch â’r Prif Weithredwr, Siân Curley, ar commissioner@gwent.police.uk


Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.

Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.

Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.

Rydym yn talu Cyflog Byw i bob aelod o staff a gyflogir gennym ac i staff asiantaeth sy’n gweithio gyda ni.

YMGEISWYR MEWNOL: Sylwer na allwn symud eich cais ymlaen at y cam rhestr fer nes y byddwn wedi derbyn eich ffurflen Cymeradwyaeth Rheolwr Llinell. Cyflwynwch y ffurflen hon erbyn y dyddiad cau. Diolch.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.