Swyddog Cadw yn y Ddalfa

Heddlu Gwent
Staff Heddlu
Adran Gweinyddu Cyfiawnder
Gwasanaethau Dalfa
Gorsaf Heddlu Casnewydd Canolog, Gorsaf Heddlu Ystrad Mynach
SC5
£27,789 - £29,874 (With shift allowance £33,346 - £35,848 approx.)
Sifft, Gweithio Penwythnos
20%
Llawn Amser
37
Parhaol
4

11/04/24 13:00

Ydych chi’n frwdfrydig, gofalgar, diwyd a dibynadwy ac yn mwynhau gweithio mewn tîm? Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu gwych?

Mae Heddlu Gwent yn chwilio am unigolion i weithio yn ein hunedau dalfa deinamig i sicrhau gofal a lles unigolion sy’n cael eu cadw yn nalfa’r heddlu. Mae’r hysbyseb hwn ar gyfer swyddogion a fydd yn dechrau yn gynnar ym mis Medi.

Mae’r rôl yn gofyn am waith tîm ac mae’r prif gyfrifoldebau’n cynnwys asesu a darparu ar gyfer anghenion diogelwch a lles y person sy’n cael ei gadw. Byddwch yn chwilio pobl sy’n cael eu cadw ac yn sicrhau samplau fforensig fel olion bysedd, lluniau a phrofion cyffuriau. Byddwch yn cynorthwyo swyddogion sy’n ymchwilio trwy drefnu a hwyluso mynediad at wasanaethau cyfreithiol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac asiantaethau partner. 

Dylai ymgeiswyr ddal trwydded yrru lawn gyfredol neu fod yn gallu teithio o gwmpas ardal yr heddlu’n defnyddio trafnidiaeth arall lle bo angen. 

Os byddwch yn llwyddiannus mewn cyfweliad bydd gofyn i chi gael prawf ffitrwydd (prawf Blip Lefel 5.4), prawf cyffuriau, prawf biometreg (DNA ac olion bysedd) ac apwyntiad meddygol. Bydd dyddiadau’n cael eu cadarnhau ar ôl i ymgeiswyr lwyddo yng nghamau cyntaf y broses recriwtio.

Deall eich prawf ffitrwydd

Mae’r prawf yn golygu rhedeg yn ôl ac ymlaen ar hyd trac 15 metr, gan gyrraedd y llinell derfyn ar amser gyda chyfres o blipiau sain. Ar ddiwedd pob lefel bydd y cyfnod amser rhwng pob blip yn lleihau sy’n golygu bod rhaid i chi redeg yn gyflymach i gadw o fewn yr amser. Ar y dechrau cewch gyfle i dwymo trwy redeg at ddechrau Lefel 3. Mae hwn yn gyfle i chi ddeall y system blip yn ogystal â thwymo. Wedyn mae’r prawf yn dechrau yn ôl ar Lefel 1. 5.4 yw’r safon ofynnol sy’n golygu bod gofyn i chi barhau i redeg mewn amser gyda’r blipiau nes byddwch wedi cwblhau 4 rhediad yn ôl ac ymlaen ar lefel 5.

SYLWER: Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr mewnol.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.

Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.

Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.

Y buddion rydym yn eu cynnig  

Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac rydym yn rhoi digonedd o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich swydd. Rydym hefyd yn cynnig buddion fel y rhai canlynol:

  • Hawl i wyliau blynyddol hael sy’n codi i naill ai 27 neu 30 diwrnod yn dibynnu ar raddfa, yn ogystal ag wyth gŵyl banc
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr ac amrywiaeth o raglenni cefnogi lles
  • Mynediad am ddim i gampfeydd yn ein safleoedd
  • Gostyngiadau gan nifer o fanwerthwyr trwy’r cynllun Blue Light a Cherdyn Vectis
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith
  • Gweithio Hybrid/Ystwyth (yn dibynnu ar y swydd)
  • Cyfleoedd i weithio’n hyblyg
  • Cynllun pensiwn Llywodraeth Leol
  • Amrywiaeth o rwydweithiau cefnogi     
  • Hawl i wyliau mamolaeth/tadolaeth a mabwysiadu hael    
  • Darpariaethau tâl salwch hael   
  • Opsiwn i ymaelodi ag UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus

Er mwyn i ni allu darparu gwasanaeth plismona rhagorol i bawb, mae angen pobl o bob cefndir arnom ni, gydag amrywiaeth o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd, fel ein bod yn cynrychioli ein cymunedau go iawn.

Mae gan Heddlu Gwent raglen gymorth gweithredu cadarnhaol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch Brian, Clare a Rima: positive.action@gwent.police.uk neu ewch i’n tudalen gweithredu cadarnhaol yma: Gweithredu Cadarnhaol | Heddlu Gwent

Rydym yn falch i fod yn wasanaeth plismona sy’n siarad Cymraeg ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â sgiliau Cymraeg.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.