Mynd ymlaen i’r cynnwys
Newid Iaith
Cymraeg
Saesneg
Mewngofnodi
|
Cofrestru
Cartref
Swyddi Gwag Heddlu Gwent
Cronfa Dalent Heddlu Gwent
Canolfan Gymorth
Mewngofnodi
|
Cofrestru
Cofrestrwch eich diddordeb (Swyddi gwag Heddlu Gwent)
Disgrifiad Banc Doniau:
Ymunwch â Chronfa Dalent Heddlu Gwent (Cofrestrwch ddiddordeb) Rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog fel chi sy’n frwd dros blismona a gwasanaeth cyhoeddus. Gall eich sgiliau a’ch profiad chi helpu i greu cymunedau mwy diogel a chadarn. Efallai bod plismona rheng flaen, gwaith ymchwilio, cymorth y tu ôl i’r llenni, neu wirfoddoli’n mynd â’ch bryd chi. Neu efallai eich bod yn aros i glywed am y cyfle mwyaf addas i chi. Beth bynnag sy’n apelio atoch chi, mae Heddlu Gwent yn cynnig amryw o gyfleoedd i gyd-fynd â’ch sgiliau a’ch dyheadau chi. Trwy ymuno â’n Cronfa Dalent, byddwch ymysg y cyntaf i glywed am swyddi sy’n addas ar gyfer eich sgiliau a’ch diddordeb chi: • Swyddi gwag — yn cynnwys swyddi â thâl, prentisiaethau, a swyddi gwirfoddol • Sesiynau gwybodaeth — wedi’u trefnu’n bwrpasol i’ch helpu chi i baratoi a llwyddo • Digwyddiadau recriwtio — yn y cnawd ac ar-lein Rydyn ni’n recriwtio trwy’r flwyddyn. Mae swyddi gwag ar gael yn wythnosol ac mae ymgyrchoedd recriwtio swyddogion yn cael eu cynnal sawl gwaith mewn blwyddyn. Beth allwn ni ei gynnig i chi? • Gwybodaeth am swyddi cyffroes ledled yr heddlu • Cyfle i greu gweithlu sy’n adlewyrchu ein cymunedau amrywiol • Newyddion am ddigwyddiadau recriwtio a sesiynau codi ymwybyddiaeth Chwiliwch ein Llwybrau Gyrfa: o Cwnstabliaid Heddlu (Ymateb, Plismona Cymdogaeth, Plismona Ffyrdd, Arfau Tanio) o Ditectif Gwnstabliaid (datrys achosion cymhleth a sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr) o Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu (meithrin ymddiriedaeth a hyder, rhoi cymorth i gymunedau amrywiol) o Cysylltwyr Ystafell Gyswllt a Rheoli’r Heddlu a Staff Cymorth (Swyddogion y Ddalfa, Cymorth i Ddioddefwyr, Adnoddau Dynol, Cyllid, Gweinyddu, a mwy) o Prentisiaethau / Interniaethau Ymunwch â’n Cronfa Dalent heddiw i fod ar y blaen. Cliciwch y botwm YMGEISIO isod i gofrestru.