Swyddog Cudd-wybodaeth Carchardai
18/11/20 15:00
Gwahoddir ceisiadau am rôl Swyddog Cudd-wybodaeth Carchar yn Uned Cudd-wybodaeth y Carchar Rhanbarthol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llenwi rôl Swyddog Niwed Uchel yn y Carchar ar gyfer Carchardai Cymru.
Oherwydd natur barhaus y rôl a’r llwyth gwaith trwm, nid yw’r swydd wag hon yn addas ar gyfer rhannu swydd/gweithio rhan amser.
Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd yn barod i gwblhau'r cliriad diogelwch manylach neu'r broses fetio uwch yn llwyddiannus;
Bydd hefyd angen cwblhau proses sefydlu diogelwch ychwanegol, sy'n cynnwys gwiriadau cyn-sgrinio o genedligrwydd a chysylltiadau tramor. Rhaid pwysleisio bod hyn yn ogystal â’r broses Fetio Uwch neu broses fetio rheoli’r heddlu. Rhaid i ymgeiswyr fod yn llwyddiannus yn y ddau gliriad er mwyn cael eu penodi i'r swydd hon.
Os yw eich swydd bresennol o fewn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni 2 flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel DV.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.