Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu (Medi 2025 derbyn)
Ydi gwneud gwahaniaeth yn bwysig i chi yn eich swydd? Os felly, gallai Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCC) fod yn swydd ddelfrydol i chi.
Fel presenoldeb mewn iwnifform yn eich cymuned, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn meithrin ymddiriedaeth a hyder trwy ein helpu ni i ddarparu ein Strategaeth Plismona Cymdogaeth ar gyfer ein cymunedau.
Mae swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu yn gweithredu fel cyswllt allweddol rhwng cymunedau lleol a phlismona. Mae hon yn swydd sy'n ymwneud â'r cyhoedd ac mae'r swyddogion yn bresenoldeb gweladwy mewn iwnifform, sy'n hawdd mynd atynt, yn tawelu meddwl, lleddfu sefyllfaoedd lle mae perygl o wrthdaro, gwella hyder ac ymddiriedaeth, casglu gwybodaeth a meithrin perthynas dda gyda'r gymuned
Pa dasgau fyddaf yn eu gwneud?
- Patrolau cerdded
- Ymgysylltu â'r gymuned a meithrin ymddiriedaeth a hyder
- Lleihau ac ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Casglu gwybodaeth
- Datrys anghydfodau a phroblemau yn y gymuned
Pa werthoedd a sgiliau fydd eu hangen arnaf?
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Gwerthoedd moesegol cadarn – bod â'r uniondeb a'r gwerthoedd i ddal swydd o ymddiriedaeth a chyfrifoldeb
- Bod yn ofalgar a charedig
- Sgiliau datrys problemau
- Cadernid
- Bod yn hyderus i reoli sefyllfaoedd
- Bod yn frwd dros wneud gwahaniaeth yn eich cymuned.
CYFLOG A BUDDION
Gradd 4 - £26,106- £28,653 (Cyflog posibl o £29,000 i £32,000 yn cynnwys lwfans shifft a mwy o gyflog am weithio ar benwythnos).
Telir uchafswm lwfans shifftiau o 12.5% yn ddibynnol ar leoliad ac union oriau gweithio. Telir amser a hanner am weithio ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Ein buddion:
Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac yn darparu digon o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich rôl. Rydym hefyd yn cynnig buddion fel:
- Hawl gwyliau blynyddol hael sy'n codi i naill ai 29 neu 30 diwrnod yn dibynnu ar reng, ac wyth gŵyl banc.
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr ac amrywiaeth o raglenni cymorth lles
- Mynediad am ddim i gampfeydd ar ein safleoedd
- Gostyngiadau gan wahanol fanwerthwyr trwy gyfrwng y Cynllun Blue Light a Cherdyn Vectis.
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Gweithio Hybrid/Ystwyth (yn dibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd i weithio’n hyblyg
- Cynllun pensiwn Llywodraeth Leol
- Amrywiaeth o rwydweithiau cefnogi
- Hawl i wyliau mamolaeth/tadolaeth a mabwysiadu hael
- Darpariaethau tâl salwch hael
- Opsiwn i ddod yn aelod o UNSAIN, undeb y gwasanaeth cyhoeddus
Oriau gwaith yw 8am tan 10pm ar batrwm shifftiau dros saith diwrnod yr wythnos.
YR HYN SY'N OFYNNOL I FOD YN SWYDDOG CEFNOGI CYMUNED YR HEDDLU
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn 17 oed pan fyddant yn cyflwyno cais ond RHAID iddynt fod yn 18 oed pan fyddant yn dechrau eu cyflogaeth.
- Rhaid i ymgeiswyr fod o fewn ystod ‘BMI’ o rhwng 18 a 32, neu allu bod yn yr ystod hon erbyn mis Gorffennaf 2025.
- Rhaid i ymgeiswyr allu cwblhau rhediad gwib (prawf ‘bleep’) hyd at lefel 5:4.
- Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar a dangos tystiolaeth o radd A*-C TGAU (4-9) yn Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster Sgiliau Gweithredol Lefel 2 yn Saesneg a Mathemateg. Os nad oes gennych chi gymhwyster Lefel 2 bydd angen i chi lwyddo yn y prawf rhesymu geiriol a rhifiadol ar-lein.
- Rhaid bod gennych chi drwydded yrru lawn y DU neu rhaid i chi gael un o fewn 12 mis i'r penodiad.
Y BROSES YMGEISIO:
- Meini Prawf Cymhwyso gan gynnwys cadarnhad o'ch cymwysterau (bydd gofyn i chi uwchlwytho a dangos tystiolaeth o'ch tystysgrif lefel 2 Saesneg a Mathemateg pan fyddwch yn cyflwyno eich cais).
- Estynnir gwahoddiad i chi gwblhau’r sifft cenedlaethol yn rhan o'r broses (mae hyn yn cynnwys dau ymarfer: y prawf crebwyll mewn sefyllfa a holiadur arddulliau ymddygiad. Defnyddir yr ymarferion yma i asesu gallu, cryfderau ac ymddygiad sy'n bwysig yn y swydd rydych wedi gwneud cais amdani (rhagor o wybodaeth yma).
- Ffurflen gais Bydd gofyn i chi gofnodi eich manylion personol.
- Yn dilyn eich cais ac ar ôl cwblhau'r profion ar-lein, gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad. Mae'r Fframwaith Cymwyseddau a Gwerthoedd ar gael i'w lawrlwytho hefyd a bydd hwn yn rhoi golwg i chi ar yr agweddau a'r gwerthoedd a fydd yn cael eu hasesu mewn cyfweliad: Fframwaith cymwyseddau a gwerthoedd | Coleg Plismona.
- Os byddwch yn llwyddiannus ar y cam cyfweliad bydd gofyn i chi fod yn bresennol mewn gwiriadau cyn cyflogi (mwy o fanylion isod).
HYFFORDDIANT
Bydd eich cyfnod hyfforddi cyntaf am naw wythnos (dydd Llun - dydd Gwener) a byddwch yn cael cymorth gan ein tîm hyfforddiant mewnol pwrpasol.
Bydd yn cynnwys sesiynau chwarae rôl a sesiynau ymarferol i wneud yn siŵr eich bod yn deall popeth yn drwyadl. Byddwch yn gorffen yr hyfforddiant gyda'r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol y gallwch eu defnyddio'n ymarferol. Yn ogystal - gallai rhannu'r profiad yma gyda'ch cydweithwyr yn y dosbarth feithrin perthnasau cadarn a fydd gyda chi am weddill eich gyrfa.
Byddwch yn derbyn un diwrnod o hyfforddiant Cymraeg hefyd a byddwch yn cwblhau tiwtoriaeth 15 wythnos ar ôl yr hyfforddiant yn y dosbarth lle byddwch yn cwblhau portffolio seiliedig ar gymhwysedd.
Ar ddiwedd eich cyfnod hyfforddi bydd eich tiwtor yn eich asesu - os ydych chi'n barod, byddwch yn derbyn eich amserlen waith newydd. Gallwch ddechrau mynd allan ar batrôl annibynnol yn awr!
Sylwer bod deiliadaeth swydd am 18 mis ynghlwm â’r swydd yma.
GWYBODAETH RECRIWTIO – GWIRIADAU CYN CYFLOGI
Os byddwch yn llwyddiannus yn yr asesiadau ar-lein ac yn y cyfweliad bydd gofyn i chi fod ar gael ar y dyddiadau canlynol:
- Cyfweliadau: DYDDIADAU I'W CADARNHAU
Gwiriadau Cyn Cyflogi:
- Profion Cyffuriau / Biometreg: DYDDIADAU I'W CADARNHAU
- Prawf Ffitrwydd: DYDDIADAU I'W CADARNHAU
- Gwiriadau Iechyd Galwedigaethol (Sawl dyddiad ar gael): DYDDIADAU I'W CADARNHAU
I gael rhagor o gymorth a chyngor, cysylltwch â centralrecruitment@gwent.police.uk
Amrywiaeth a'r Gymraeg
Er mwyn i ni allu darparu plismona rhagorol i bawb, mae angen pobl o bob cefndir arnom ni, gydag amrywiaeth eang o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd, er mwyn i ni allu cynrychioli ein cymunedau go iawn.
Mae Heddlu Gwent yn darparu rhaglen gymorth gweithredu cadarnhaol i grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol. I gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at Brian a Clare: Positive.action@gwent.police.uk neu ewch i'n tudalen gweithredu cadarnhaol yma: Gweithredu Cadarnhaol | Heddlu Gwent.
Rydym yn falch i fod yn wasanaeth heddlu sy'n siarad Cymraeg ac rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr gyda sgiliau Cymraeg.
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd. Ein nod yw recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl â chyflyrau iechyd, er mwyn eu sgiliau a'u talent. Gallwch ddangos ar eich ffurflen gais a oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i'ch galluogi i wneud y swydd, neu i'ch cynorthwyo gyda'ch cais.