Cofrestrwch ddiddordeb mewn swyddi gwag yn y dyfodol ar gyfer staff Ystafell Gyswllt a Rheoli'r Heddlu

Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol

Heddlu Gwent
Swyddi Staff yr Heddlu yn y Dyfodol
Gwasanaethau Gwarchodol
Swît Gyfathrebu'r Heddlu
Pencadlys Heddlu Gwent

Mae Cysylltwyr Galwadau Ystafell Gyswllt a Rheoli'r Heddlu yn derbyn llawer o hyfforddiant ac maen nhw'n fedrus iawn. Maen nhw'n ymdrin â'r holl alwadau brys a dderbynnir trwy 999 a'r holl alwadau nad ydynt yn rhai brys a dderbynnir trwy 101 a'r Switsfwrdd. Yn ogystal â chofnodi digwyddiadau a rhoi cyngor, mae'r cysylltwyr hefyd yn gyfrifol am anfon a rheoli adnoddau’r heddlu, gan sicrhau bod y swyddogion iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn.

 

Ydych chi'n ymgeisydd brwdfrydig ac uchelgeisiol gydag ymagwedd gadarnhaol ac sy'n gallu trin pobl yn dda ar y ffôn?

 

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y swydd hon i ddatgan eu diddordeb ar gyfer swyddi gwag yn y dyfodol, a byddwn yn cysylltu â nhw pan fydd cyfnodau recriwtio'n agor yn y dyfodol.