Cwnstabl Arbennig

Heddlu Gwent
Swyddogion Gwirfoddol
Heddlu Gwirfoddol
Plismona Ardal Leol - Heddlu Gwirfoddol
Ledled yr Heddlu
16
Gwirfoddolwr
1

16/10/22 23:00

Mae Heddlu Gwent yn cynnig cyfle cyffrous ac unigryw i aelodau ein cymuned fod yn Gwnstabliaid Gwirfoddol. Swyddogion heddlu gwirfoddol yw Cwnstabliaid Gwirfoddol gyda phwerau gwarant llawn, iwnifform ac offer.

Mae pob Cwnstabl Gwirfoddol yn wahanol. Yng Ngwent, mae gennym Gwnstabliaid Gwirfoddol sy'n dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac sy'n gweithio mewn pob mathau o swyddi. Mae gennym Gwnstabliaid Gwirfoddol sy'n gweithio ym meysydd TG, cynhyrchu bwyd, dysgu, y diwydiant awyrennau, gweinyddu, lletygarwch, a'r sector cyhoeddus. Rydym yn croesawu Cwnstabliaid Gwirfoddol sy'n ofalwyr llawn amser, myfyrwyr, a phobl sydd wedi ymddeol. Rydym yn dîm amrywiol sy'n cydnabod mai un o'n prif gryfderau yw bod pob un ohonom ni'n dod â rhywbeth unigryw i'r tîm, a bod gan bob un ohonom ni rywbeth gwahanol i'w gynnig.

Mae gwirfoddoli fel Cwnstabl Gwirfoddol yn ffordd wych i roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned, i herio eich hun a datblygu sgiliau newydd. Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol yn dîm o wirfoddolwyr medrus, ymroddgar a gwerthfawr ac maent yn chwarae rhan hollbwysig yn amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau.

Fel Cwnstabl Gwirfoddol, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion heddlu arferol ac yn eu cefnogi nhw'n weithredol, trwy fynd ar batrôl, ymateb i ddigwyddiadau sy'n cael eu riportio a chynorthwyo'r cyhoedd. Byddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn cyflawni’r blaenoriaethau plismona ar gyfer Gwent. Byddwch yn gwneud ffrindiau newydd, yn gweld bywyd o safbwynt newydd ac yn chwarae rhan allweddol fel arweinwyr yn ein cymunedau.

Mae oriau gwirfoddoli'n hyblyg a gallwch drefnu eich gwaith gwirfoddol i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau personol. Mae gan bob un o'n Cwnstabliaid Gwirfoddol ymrwymiadau eraill, swyddi llawn amser, teuluoedd, astudiaethau, a llawer o gyfrifoldebau eraill. Rydym yn deall hynny, ac rydym yn gweithio'n galed i wneud yr heddlu gwirfoddol yn gyfle hyblyg i wirfoddoli, sy'n addas ar eich cyfer chi. Yr hyfforddiant dechreuol yw'r unig ran o'r swydd sy'n digwydd ar ddyddiadau penodedig ac mae'n rhaid i chi fod yn bresennol ar eu cyfer. Ar ôl y cam hwn, chi sy'n penderfynu pryd rydych am wirfoddoli fel swyddogion heddlu. Gofynnwn i chi wirfoddoli am isafswm o 16 awr y mis, er mwyn i chi sicrhau bod eich sgiliau'n gyfredol.

Byddwch yn cael eich hyfforddi'n drwyadl i ymgymryd â'ch rôl wirfoddol, mewn diogelwch gweithredol, cymorth cyntaf, pwerau a deddfwriaeth a llawer mwy. Bydd y cwrs dechreuol yn cynnwys un wythnos lawn o hyfforddiant, wedyn 10 wythnos o sesiynau unwaith yr wythnos, gyda'r nos (naill ai ar ddydd Mawrth neu ddydd Mercher) ac un penwythnos (dydd Sadwrn neu ddydd Sul). Ar ôl yr hyfforddiant hwn byddwch yn cael eich defnyddio fel swyddogion gweithredol yn gweithio o orsaf. Byddwch yn dysgu'n barhaus trwy gydol eich siwrnai fel Cwnstabl Gwirfoddol.  

Mae'r heddlu gwirfoddol yn gyfle unigryw i fod yn rhan o rywbeth mwy. Os byddwch yn ymuno â'r teulu heddlu fel Cwnstabl Gwirfoddol, byddwch yn ennill sgiliau a phrofiadau a fydd yn para gydol eich oes.

Y Broses Ymgeisio

Yn dilyn eich cais ac ar ôl cwblhau'r profion ar-lein, gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad. 

Os byddwch yn llwyddo mewn cyfweliad, bydd angen i chi fod ar gael ar gyfer yr asesiadau canlynol, prawf ffitrwydd, prawf cyffuriau a biometreg, a phrawf meddygol (dyddiadau i'w cadarnhau).

Mae'r Fframwaith Cymwyseddau a G1.werthoedd ar gael i'w lawrlwytho hefyd a bydd hwn yn rhoi golwg i chi ar yr agweddau a'r gwerthoedd a fydd yn cael eu hasesu mewn cyfweliad. Sylwer bod llawer o ffynonellau gwybodaeth eraill am blismona, Cwnstabliaid Gwirfoddol a blaenoriaethau Heddlu Gwent ac maent ar gael ar-lein.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, ffoniwch 01633 642212 neu anfonwch e-bost at centralrecruitment@gwent.pnn.police.uk

 

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.