Polisi cwcis / diogelu data a phreifatrwydd

Polisi cwcis yn unol â chyfraith yr UE

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i’ch gwahaniaethu o ddefnyddwyr eraill y wefan fel rhan o ddiogelwch y safle hwn. Mae cwci yn ffeil bach o lythrennau a rhifau a roddwn ar eich cyfrifiadur.

Dim ond gwybodaeth ar hap ond unigryw y bydd unrhyw gwci a osodir gennym yn ei gynnwys a fydd yn dod i ben pan fyddwch yn cau’r porwr. Nid yw’r cwci yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif.

Dim ond pan fydd y porwr yn anfon ceisiadau am dudalennau gwe newydd i’n gweinyddion y gall ddefnyddio’r wybodaeth gwci - ni fydd y porwr yn caniatáu defnyddio’r cwci at unrhyw ddibenion eraill. Caiff y cwci ei amgryptio’n gryf i’w ddiogelu pan gaiff y cynnwys ei anfon atom.

Mae’r defnydd o’r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn gweithredu ein gwefan yn gywir ac yn ddiogel.

Mae’n bosibl y bydd y cwcis a osodir gennym yn cynnwys y canlynol:

  • wcn_session: Mae’n bosibl y caiff hyn ei osod ar gyfer defnyddwyr sy’n ymweld â *.tal.net domain. Defnyddir hyn er mwyn adnabod defnyddiwr heb awdurdod. Caiff ei ddefnyddio pan fydd defnyddiwr yn mewngofnodi. Os caiff ei osod i werth dilys, yna ni fydd angen i’r defnyddiwr fewngofnodi ar gyfer ceisiadau dilynol.
  • Crsf-token: Mae’n bosibl y caiff hyn ei osod ar gyfer defnyddwyr sy’n ymweld â pharth *.tal.net. Caiff ei ddefnyddio fel mesur i ddiogelu’r defnyddiwr rhag ymosodiadau ffug yn unig o geisadau o wefannau eraill. Caiff tocyn ei ddarparu pan fydd y gweinydd yn ymateb i gais â thudalen newydd a dylid darparu’r tocyn hwn ar ffurf cwci pan fydd y defnyddiwr yn gwneud cais dilynol ar ôl gweithredu ar y dudalen.
  • idservice_session: Mae’n bosibl y caiff hyn ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr sy’n ymweld â me.tal.net sy’n wasanaeth darparu hunaniaeth ac sy’n gallugoi defnyddwyr i fewngofnodi i amrywiaeth o barthau*.tal.net. Mae defnyddio me.tal.net yn ddewisol ond dewisir yr opsiwn hwn, yna mae’r cwci hwn yn hanfodol er mwyn gweithredu’r gwasanaeth darparu hunaniaeth.

Hysbysiad Preifatrwydd 

Eich Data Personol:

Cyflwyniad

 

Bydd yr heddlu byddwch yn ymgeisio i weithio iddo'r hyn a elwir yn 'rheolydd' y data personol a roddwch i ni. Bydd hyn yn un o'r heddluoedd canlynol – Heddlu Gogledd Cymru (HGC), Heddlu De Cymru (HDC), Heddlu Dyfed Powys (HDP) neu Heddlu Gwent (HG).

 

Rydym yn defnyddio gwasanaethau prosesydd data sef cwmni o'r enw Oleeo. Mae contract a chytundeb prosesydd data mewn lle at y diben hwn. Edrycher ar eu  Hysbysiad Preifatrwydd hefyd.

 

Yr hyn sydd angen arnom

Rydym ond yn casglu data personol perthnasol amdanoch chi er mwyn cyflawni ein diben. Bydd hyn yn cynnwys mathau arbennig o wybodaeth fel gwybodaeth anabledd, barn wleidyddol a gwybodaeth droseddol. Bydd hefyd yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, cymwysterau a hyfforddiant, profiad cyflogaeth, dewis iaith a'ch mamwlad.

 

Y rheswm rydym ei angen

Rydym angen prosesu eich data personol er mwyn gadael i ni recriwtio'r ymgeiswyr mwyaf addas i fynd i gytundeb cyflogaeth gyda HGC, HDC, HDP a HG a sicrhau ein bod yn cyrraedd ein goblygiadau a chyfrifoldeb cyfreithiol fel cyflogwr.

 

Beth wnaiff ddigwydd os na wnewch roi eich data personol? 

Drwy roi eich data personol, rydych yn gadael i ni brosesu eich cais yn unol â hynny. Rydych hefyd yn caniatáu i ni gysylltu â chi yn ystod y broses recriwtio. Bydd hyn hefyd yn eich galluogi i symud ymlaen drwy'r broses pan fydd gofyn i chi wneud asesiadau neu brofion gyda chyflenwyr trydydd parti.

Os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth hon, ni fyddwn yn gallu prosesu eich cais a chysylltu â chi.

Yr hyn rydym yn ei wneud â'r wybodaeth

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel a gellir ond cael mynediad ati gan y rhai sydd ag awdurdod i wneud hynny a chyflenwyr trydydd parti sy'n gyfrifol am y ganolfa asesu a phrofion ymgeisio'r heddlu. 

 

Mae HGC, HDC, HDP a HG yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ac mae ganddynt weithdrefnau a pholisïau hyfforddi mewn lle i gadw data personol yn ddiogel.

 

Bydd gwybodaeth a gasglwyd yn ystod y broses recriwtio yn cael ei throsglwyddo i ffeil cyflogaeth ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus.

 

Gwybodaeth sensitif

Os wnewch chi gais atom ni, gall y broses ymgeisio ofyn am wybodaeth 'sensitif' (gweler Polisi Preifatrwydd a Hysbysiadau Cyfreithiol gwybodaeth sensitif yn yr heddlu). Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon ar gyfer monitro recriwtio a'r broses ddethol a byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol. Gallwn rannu'r wybodaeth y byddwch yn rhoi i ni gyda rhannau eraill o HGC, HG, HDP a HDC er mwyn diweddaru'ch cofnodion cyflogaeth unwaith byddwch yn gweithio i'r heddlu.

  

Swyddogion Fyfyrwyr yr Heddlu

I ymgeiswyr sy'n gwneud cais i fod yn swyddog fyfyriwr heddlu, bydd y darparwr addysg uwch perthnasol yn gweithio ar y cyd â HGC, HDC, HDP a HG sy'n rhan o'r camau olaf o ddethol a gwerthuso gallu academaidd ymgeiswyr. Bydd eich data personol fodd bynnag yn aros ar systemau HGC, HDC, HDP a/neu HG ar gyfer y pwrpas hwn.

 

Yr hyd y byddwn yn ei gadw

Bydd eich data personol yn cael ei gadw ar y system Oleeo am 12 mis wedi diwedd y broses recriwtio, neu am 6 blynedd os yw'r ymgeisydd yn methu'r broses fetio.  Byddwch wedyn yn anhysbys at ddibenion ystadegol.

 

A fydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i wneud penderfyniadau awtomataidd amdanoch chi?

Na fydd

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych yr hawl o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data i ofyn am gopi o'ch gwybodaeth (yn amodol ar eithriadau). Er enghraifft, er mwyn gwybod y caiff ei defnyddio a sut y mae wedi'i rhannu. Gelwir hyn yn hawl mynediad at ddata gan y testun. 

Yn ogystal â'r hawl mynediad, mae gennych hefyd hawliau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i gywiro gwybodaeth anghywir; yr hawl i ofyn i'ch data personol gael ei chwalu neu ei gyfyngu; a’r hawl i symud data a'r hawl i wrthwynebu.

Ceir gwybodaeth bellach gan yr heddlu yr ydych yn gwneud cais amdano ar eu prif hysbysiad preifatrwydd.

Gwneud cwyn am eich data personol

Gallwch gwyno'n uniongyrchol wrth Swyddog Diogelu Data'r heddlu yr ydych yn gwneud cais amdano. Gellir gweld y manylion ar wefan yr heddlu o fewn eu hysbysiad preifatrwydd.

Mae hawl gennych hefyd i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth gan ddefnyddio'r wybodaeth ganlynol: -

The Information Commissioner's Office

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire SK9 5AF

 

Ffôn: 0303 123 1113

 

Gwefan: www.ico.org.uk