DIRPRWY BRIF GWNSTABL

Heddlu Gwent
Swyddog Heddlu
CPSH
Portffolio'r Dirprwy Brif Gwnstabl
Pencadlys Heddlu Gwent
Dirprwy Brif Gwnstabl
40
1

09/09/19 13:00

Ydych chi'n arweinydd heddlu ysbrydoledig sy'n awyddus i ymuno â heddlu blaengar sy'n perfformio'n dda? Ydych chi yr un mor frwdfrydig â ni dros blismona a phartneriaethau yn y gymdogaeth? Ydych chi'n ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau plismona o safon sy'n rhoi gwerth am arian? Allwch chi ddiogelu a sicrhau ein cymunedau?

Mae gan Heddlu Gwent record gyson o gyflawniad gweithredol ac ymrwymiad digamsyniol i ddarparu'r gwasanaethau plismona gorau posibl i gymunedau Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Chaerffili.

Mae hwn yn gyfle i unigolyn talentog, brwdfrydig ac arloesol ymuno â thîm dylanwadol bach o Brif Swyddogion sy'n ymrwymedig i gyflwyno newid. Bydd gennych ymagwedd gadarnhaol tuag at ddarparu lefelau uchel o berfformiad yn ogystal â phrofiad cadarnhaol o blismona gweithredol.

Os hoffech drafod y mater â'r Brif Gwnstabl presennol yn anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu ag ef ar 01633 642 280

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle naill ai i dderbyn Lwfans Milltiroedd Penodedig, neu i wneud cais i fod yn rhan o Gynllun Prydlesu Ceir y Prif Swyddogion.

Gellir cael pecynnau ymgeisio yn: https://www.gwent.police.uk/en/join-us/vacancies/

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.