Ystafell Gyfathrebu'r Llu – Triniwr Galwadau

Heddlu Gwent
Staff Heddlu
Gwasanaethau Gwarchodol
Swît Gyfathrebu'r Heddlu
Pencadlys Heddlu Gwent
SC34
£19,452 - £23,406 pro rata
Sifft
7.5%
Rhan Amser
Arall
25
Parhaol
1

01/10/20 13:00

Gellir cynnal y broses recriwtio gyfan, gan gynnwys ffurflen gais, y ganolfan asesu a chyfweliad, yn Gymraeg neu Saesneg, yn dibynnu ar ddewis yr ymgeisydd. Awgrymwn fod ymgeiswyr sy'n gwneud cais yn Gymraeg yn newid yr iaith i'r Gymraeg ar dudalen Hafan y Bwrdd Swyddi Gwag.

Mae Cysylltwyr Galwadau Ystafell Gyfathrebu'r Llu yn derbyn llawer o hyfforddiant ac maen nhw'n fedrus iawn. Maen nhw'n ymdrin â'r holl alwadau brys a dderbynnir trwy 999 a'r holl alwadau nad ydynt yn rhai brys a dderbynnir trwy 101 a'r Switsfwrdd. Yn ogystal â chofnodi digwyddiadau a rhoi cyngor, mae'r cysylltwyr galwadau hefyd yn gyfrifol am anfon a rheoli adnoddau’r heddlu, gan sicrhau bod y swyddogion iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig ac uchelgeisiol gydag ymagwedd gadarnhaol sy'n gallu trin pobl yn dda ar y ffôn. Hoffem annog ymgeiswyr posibl i wneud cais i fynd ar y Cynllun Cysgodi er mwyn cael cipolwg ar y swydd (Dolen ar adran Ymunwch â Ni gwefan Heddlu Gwent).

Rydym yn awyddus i recriwtio siaradwyr Cymraeg er mwyn rhoi cymorth i'r sefydliad ateb y galw gan y cyhoedd a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

DYDDIADAU I'W NODI =

Y Ganolfan Asesu = Cymraeg 15/10/20 a Saesneg 16/10/20 (15/10/20 hefyd o bosibl)

Cyfweliadau = Cymraeg 2/11/20 , Saesneg 2/11/20 a 3/11/20

Dyddiad dechrau arfaethedig = 11/01/2021

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.

Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.

Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.

Rydym yn talu Cyflog Byw i bob aelod o staff a gyflogir gennym ac i staff asiantaeth sy’n gweithio gyda ni.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.