Polisi cwcis / diogelu data a phreifatrwydd

Polisi cwcis yn unol â chyfraith yr UE

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i’ch gwahaniaethu o ddefnyddwyr eraill y wefan fel rhan o ddiogelwch y safle hwn. Mae cwci yn ffeil bach o lythrennau a rhifau a roddwn ar eich cyfrifiadur.

Dim ond gwybodaeth ar hap ond unigryw y bydd unrhyw gwci a osodir gennym yn ei gynnwys a fydd yn dod i ben pan fyddwch yn cau’r porwr. Nid yw’r cwci yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif.

Dim ond pan fydd y porwr yn anfon ceisiadau am dudalennau gwe newydd i’n gweinyddion y gall ddefnyddio’r wybodaeth gwci - ni fydd y porwr yn caniatáu defnyddio’r cwci at unrhyw ddibenion eraill. Caiff y cwci ei amgryptio’n gryf i’w ddiogelu pan gaiff y cynnwys ei anfon atom.

Mae’r defnydd o’r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn gweithredu ein gwefan yn gywir ac yn ddiogel.

Mae’n bosibl y bydd y cwcis a osodir gennym yn cynnwys y canlynol:

  • wcn_session: Mae’n bosibl y caiff hyn ei osod ar gyfer defnyddwyr sy’n ymweld â *.tal.net domain. Defnyddir hyn er mwyn adnabod defnyddiwr heb awdurdod. Caiff ei ddefnyddio pan fydd defnyddiwr yn mewngofnodi. Os caiff ei osod i werth dilys, yna ni fydd angen i’r defnyddiwr fewngofnodi ar gyfer ceisiadau dilynol.
  • Crsf-token: Mae’n bosibl y caiff hyn ei osod ar gyfer defnyddwyr sy’n ymweld â pharth *.tal.net. Caiff ei ddefnyddio fel mesur i ddiogelu’r defnyddiwr rhag ymosodiadau ffug yn unig o geisadau o wefannau eraill. Caiff tocyn ei ddarparu pan fydd y gweinydd yn ymateb i gais â thudalen newydd a dylid darparu’r tocyn hwn ar ffurf cwci pan fydd y defnyddiwr yn gwneud cais dilynol ar ôl gweithredu ar y dudalen.
  • idservice_session: Mae’n bosibl y caiff hyn ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr sy’n ymweld â me.tal.net sy’n wasanaeth darparu hunaniaeth ac sy’n gallugoi defnyddwyr i fewngofnodi i amrywiaeth o barthau*.tal.net. Mae defnyddio me.tal.net yn ddewisol ond dewisir yr opsiwn hwn, yna mae’r cwci hwn yn hanfodol er mwyn gweithredu’r gwasanaeth darparu hunaniaeth.

Hysbysiad Preifatrwydd 

Mae’r hysbysiad hwn yn egluro sut mae Heddlu Cymru cyfan yn prosesu data personol am unigolion, sy’n cynnwys casglu, cadw a rhannu’r wybodaeth honno. Mae hefyd yn disgrifio’r camau yr ydym yn eu cymryd i sicrhau fod y data personol yr ydym yn ei gadw yn cael ei ddiogelu, ac yn egluro hawliau unigolion o ran sut mae eu data personol yn cael ei drin gan Heddlu Cymru cyfan.

Mae prosesu data personol yn cael ei lywodraethu gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) a’r ddeddfwriaeth Diogelu Data perthnasol. Mae Heddlu Cymru cyfan wedi cofrestru gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth fel ‘Rheolwr'. Oherwydd hyn mae’n ofynnol i ni sicrhau fod holl ddata personol yn cael ei gadw a’i brosesu yn unol â’r gyfraith.

Mae Heddlu Cymru cyfan yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifri ac yn cymryd gofal mawr i sicrhau fod data personol yn cael ei drin yn addas er mwyn sicrhau a chynnal ‘hyder ac ymddiriedaeth’ yr unigolyn yn Heddlu Cymru cyfan

1.      Pam ein bod yn trin data personol?

Mae Heddlu Cymru cyfan yn cael, cadw, defnyddio ac yn datgelu data personol am ddau bwrpas cyffredinol:

  1. Y Broses Plismona – sy’n cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):
  • atal a darganfod trosedd;
  • dal ac erlyn troseddwyr;
  • diogelu bywyd ac eiddo;
  • cadw trefn;
  • cynnal cyfraith a threfn;
  • rhoi cymorth i’r cyhoedd yn unol â safonau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol yr heddlu;
  • diogelwch cenedlaethol;
  • amddiffyn gweithrediadau sifil, ac
  • unrhyw ddyletswydd neu gyfrifoldeb sy’n perthyn i’r heddlu sy’n codi o gyfraith statudol neu gyffredin.

      ii.            Darpariaeth gwasanaethau i gefnogi'r Dibenion Plismona - sy’n cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):

  • Gweinyddu staff, iechyd galwedigaethol a lles;
  • Hyfforddiant;
  • Rheolaeth buddion a’r gyflogres;
  • Rheoli cwynion;
  • Fetio;
  • Rheolaeth systemau gwybodaeth a thechnoleg;
  • Gwasanaethau cyfreithiol (sy’n cynnwys diogelu gweithrediadau sifil o fewn y cyfnod cyfyngiad statudol);
  • Gweinyddu pensiwn;
  • Ymchwil, gan gynnwys arolygon a dadansoddi;
  • Gohebiaeth cyfryngau cymdeithasol a dadansoddiad;
  • Diweddariadau, cylchlythyrau a digwyddiadau.

Dim ond defnyddio data personol addas sy’n angenrheidiol i gyflawni ein dibenion arbennig.

2.      Sail gyfreithiol dros brosesu data.

Mae’r RhDDC yn caniatáu i ddata personol gael ei brosesu dan un o chwe amod. Wrth ystyried y dibenion a enwyd uchod bydd Heddlu Cymru cyfan yn y rhan fwyaf o achosion yn ddibynnol ar gyflwr data personol. Mae hyn gan ei fod yn hanfodol ar gyfer cyflawniad yr orchwyl sy’n cael ei gyflawni er bydd y cyhoedd neu weithredu awdurdod swyddogol sy’n rhan o swyddogaeth y rheolwr. Pan mae Heddlu Cymru cyfan yn defnyddio gwybodaeth ar gyfer dibenion rhestr bostio cylchlythyr neu unrhyw beth sy’n cael ei ystyried fel ‘marchnata’ yna bydd eich gwybodaeth yn cael ei brosesu dan amod cydsyniad.

Gan fod Heddlu Cymru cyfan yn prosesu sawl categori o ddata am sawl rheswm, gall Heddlu Cymru cyfan hefyd ddibynnu ar seiliau cyfreithiol eraill. Mae hyn fel y rhai hynny sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol, neu er eich budd arbennig chi.

Pan mae ‘categorïau arbennig’ neu sensitif yn cael eu casglu, bydd seiliau cyfreithiol ychwanegol yn berthnasol. Mae'r rhain fel cael hawl penodol, yn angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, nawdd cymdeithasol, diogelu rhag hawliadau cyfreithiol, o ran budd cyhoeddus sylweddol neu ar gyfer iechyd ataliol neu alwedigaethol, ymysg rhesymau eraill.

Ym mhob achos lle mae cais yn cael ei wneud am wybodaeth gan Heddlu Cymru cyfan byddwn yn manylu ar amser casglu’r data. Gwneir hyn fel rheol drwy hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth penodol, ar ba sail gyfreithiol uchod yr ydym yn ddibynnol arno er mwyn prosesu’r data hwn.

3.      Data personol pwy ydym yn ei drin?

Er mwyn cyflawni’r dibenion a ddisgrifir dan adran 1 uchod, gall Heddlu Cymru cyfan gael, defnyddio a datgelu (gweler adran 8 isod) data personol sy’n berthnasol i amrywiaeth eang o unigolion gan gynnwys yr isod:

  • Staff gan gynnwys gwirfoddolwyr, gweithwyr asiantaeth, gweithwyr dros dro, ac asiantaethau partner;
  • Cyflenwyr a chontractwyr;
  • Cwynwyr, gohebwyr, ymgyfreithwyr ac ymholwyr;
  • Perthnasau, gwarcheidwad a chydnabod yr unigolyn dan sylw;
  • Ymgynghorwyr, arbenigwyr ac arbenigwyr proffesiynol eraill;
  • Troseddwyr a throseddwyr a amheuir;
  • Tystion;
  • Unigolion sy’n rhannu gwybodaeth â Heddlu Cymru cyfan;
  • Dioddefwyr (presennol, gorffennol a phosibl);
  • Cyn aelodau staff ac aelodau staff posibl, pensiynwyr a rhai sy’n elwa;
  • Unigolion eraill sydd o reidrwydd yn gorfod cael eu hadnabod fel rhan o ymholiadau a gweithredoedd yr heddlu.

4.      Pa fath o ddata personol yr ydym yn ei drin?

Er mwyn cyflawni’r dibenion a ddisgrifir dan adran 1 uchod, gall Heddlu Cymru cyfan gael, defnyddio a datgelu (gweler adran 8 isod) ddata personol sy’n berthnasol i neu’n cynnwys yr isod:

  • Manylion personol fel enw, cyfeiriad, e-bost a manylion bywgraffiadol;
  • Teulu, ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol;
  • Sgiliau a diddordebau;
  • Addysg a manylion hyfforddiant;
  • Manylion cyflogaeth;
  • Manylion ariannol;
  • Gwasanaethau a ddarparwyd;
  • Hil a nodweddion gwarchodedig (e.e. oedran, anabledd);
  • Categorïau arbennig eraill o ddata fel rhywedd, crefydd;
  • Cofnod troseddol;
  • Nodweddion adnabod corfforol fel DNA, olion bysedd a samplau genynnol eraill;
  • Delweddau gweledol a chofnodion sain;
  • Cudd-wybodaeth droseddol;
  • Manylion cwynion, cyfreithiad sifil a damweiniau.

5.      O le yr ydym yn cael data personol?

Er mwyn cyflawni'r pwrpasau a ddisgrifiwyd o dan adran 1 uchod, mae’n bosib y gall Heddlu Cymru cyfan gael data personol oddi wrth ystod eang o ffynonellau heblaw ‘r unigolyn yn uniongyrchol, sy’n cynnwys y canlynol:

  • Asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill;
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;
  • Asiantaethau a chyrff gorfodi’r gyfraith;
  • Awdurdodau Trwyddedi;
  • Cynrychiolwyr Cyfreithiol;
  • Awdurdodau Erlyn;
  • Cyfreithwyr Amddiffyn;
  • Llysoedd;
  • Carchardai;
  • Cwmnïau Diogelwch;
  • Asiantaethau partner sy’n gweithio ym maes trosedd a strategaethau anhrefn;
  • Sefydliadau sector preifat yn gweithio gyda strategaethau gwrth-drosedd;
  • Sefydliadau sector gwirfoddol;
  • Sefydliadau cymeradwy a phobl sy’n gweithio gyda’r heddlu;
  • Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu
  • Arolygiaeth Heddlu Ei Mawrhydi;
  • Archwilwyr;
  • Awdurdod yr Heddlu;
  • Llywodraeth Ganolog, asiantaethau ac adrannau’r llywodraeth;
  • Gwasanaethau Brys;
  • Perthnasau, gofalwyr a phersonau eraill sy’n gysylltiedig â’r unigolyn:
  • Cyflogwyr cyfredol, blaenorol neu ddarpar gyflogwyr;
  • Gofal iechyd, cynghorwyr cymdeithasol a lles neu ymarferwyr;
  • Addysg, sefydliadau hyfforddi a chyrff arholi;
  • Cyswllt busnes a chynghorwyr proffesiynol arall;
  • Gweithwyr ac asiantaethau Heddlu Cymru cyfan;
  • Cyflenwyr, darparwyr nwyddau neu wasanaethau;
  • Pobl yn ymholi neu gwyno;
  • Sefydliadau a chynghorwyr ariannol;
  • Asiantaethau cyfeirio credyd;
  • Sefydliadau arolygu ac ymchwilio;
  • Masnach, cymdeithasau a chyrff proffesiynol;
  • Llywodraeth leol;
  • Sefydliadau gwirfoddol ac elusennol;
  • Ombwdsmon ac awdurdodau rheoliadol;
  • Y cyfryngau;
  • Prosesyddion Data yn gweithio ar ran Heddlu Cymru cyfan.

Gall Heddlu Cymru cyfan gael gafael ar ddata personol oddi wrth ffynonellau eraill fel ei systemau CCC ei hunain, Fideo Camera’r Corff, cofnodion hyfforddi neu ohebiaeth.

6.      Sut yr ydym yn trin data personol?

Er mwyn cyflawni'r pwrpas a ddisgrifir o dan adran 1, bydd Heddlu Cymru cyfan yn trin data personol yn unol â’r RhDDC a’r ddeddfwriaeth Diogelu Data perthnasol. Yn arbennig byddwn yn sicrhau bod data personol yn cael ei drin yn deg ac yn gyfreithlon gyda chyfiawnhad priodol.

Byddwn yn ceisio sicrhau bod unrhyw ddata personol a ddefnyddir gennym neu ar ein rhan yn gywir ac yn berthnasol. Byddwn hefyd yn sicrhau:

  • nad yw’n ormodol;
  • ei fod yn cael ei gadw’n gyfredol;
  • yn cael ei ddiogelu’n briodol; ac yn cael ei
  • adolygu, ei gadw a’i ddinistrio yn ddiogel pan na fydd ei angen mwyach

Rydym hefyd yn parchu hawl yr unigolyn o dan y RhDDC a’r ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Os ydych wedi darparu eich data personol i ni at ddibenion proses recriwtio cwnstabl yr heddlu, bydd eich data, gan gynnwys gwybodaeth am fonitro bywgraffyddol, yn cael ei rannu â'r Coleg Plismona. Bydd yn cael ei storio ar eu rhwydwaith diogel neu o fewn eu system rheoli gwybodaeth asesu (AIMS).

O'r wybodaeth hon, bydd eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeirnod ymgeisydd eu cael eu lanlwytho i'r platfform asesu ar-lein newydd ar gyfer recriwtio cwnstabl a'i rannu gyda'r darparwr trydydd parti sy'n cynnal y system er mwyn datblygu eich cais electronig.

7.      Sur yr ydym yn sicrhau diogelu data personol?

Mae Heddlu Cymru cyfan yn cymryd diogelu holl ddata personol o dan ein rheolaeth o ddifri. Byddwn yn cydymffurfio â’r rhannau perthnasol o’r RhDDC a deddfwriaeth Diogelu Data yn ymwneud â diogelwch ac yn ceisio cydymffurfio â Pholisi Diogelu Cymuned Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid Swyddogion Yr Heddlu (CCPSH) a rhannau perthnasol Safon Diogelu Gwybodaeth ISO27001.

Byddwn yn sicrhau bod polisi priodol, hyfforddiant a mesurau technegol a gweithdrefnol yn eu lle, yn cynnwys archwilio i ddiogelu ein systemau papur ac electronig rhag colli neu gam-drin data. Byddwn ond yn caniatáu mynediad iddynt pan mae rheswm dilys i wneud hynny ac yna o dan ganllawiau llym i’r defnydd y gellir ei wneud o unrhyw ddata personol oddi mewn iddynt. Mae'r rhain yn weithdrefnau sy’n cael eu rheoli yn barhaus ac yn cael eu gwella i sicrhau diogelwch cyfredol.

8.      I bwy yr ydym yn datgelu data personol?

Er mwyn gweithredu'r pwrpasau a ddisgrifir o dan adran 1, gall Heddlu Cymru cyfan ddatgelu data personol i ystod eang o bobl, yn cynnwys y rheini y cesglir y data personol oddi wrthynt (fel y rhestrir uchod). Gall hyn olygu'r canlynol:

  • Datgeliadau i asiantaethau gorfodi’r gyfraith (yn cynnwys asiantaethau rhyngwladol);
  • Asiantaethau partner yn gweithio ar fentrau lleihau troseddau;
  • Partneriaid ym maes Cyfiawnder Troseddol;
  • Asiantaethau partner eraill yn gweithio gyda Heddlu Cymru cyfan;
  • Gwasanaethau Cefnogi Dioddefwyr;
  • Cyrff neu unigolion sy’n gweithio ar ein rhan fel contractwyr TG neu sefydliadau arolwg;
  • Llywodraeth Leol;
  • Llywodraeth Ganolog;
  • Ombwdsman ac awdurdodau rheoleiddiol;
  • Y cyfryngau;
  • Asiantaethau rhyngwladol yn ymwneud â diogelu diogelwch cenedlaethol rhyngwladol a chartref;
  • Trydydd parti yn ymwneud â diogelu diogelwch cenedlaethol;
  • Cyrff eraill neu unigolion lle bo’n hanfodol i atal niwed i unigolion

Bydd datgeliadau data personol yn cael eu gwneud ar sail achos, yn defnyddio data personol sy’n briodol ac yn gymesur â phwrpas penodol a chyfreithiol gyda’r rheolaethau angenrheidiol yn eu lle.

Bydd rhai o’r cyrff neu’r unigolion y byddwn yn datgelu data personol iddynt y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd – rhai ohonynt sydd heb gyfreithiau sy’n diogelu data mor drylwyr â’r Deyrnas Unedig. Os yr ydym yn trosglwyddo data personol i diriogaethau o’r fath byddwn yn sicrhau bod amddiffyniadau priodol yn ei lle i sicrhau eu bod wedi eu diogelu gan y RhDDC a’r ddeddfwriaeth diogelu data perthnasol.

Bydd Heddlu Cymru cyfan hefyd yn datgelu data personol i gyrff eraill neu unigolion pan fydd gofyn gwneud hynny, neu o dan, unrhyw ddeddfwriaeth drwy unrhyw reol gyfreithiol a gorchymyn llys. Gall Heddlu Cymru cyfan hefyd ddatgelu data personol ar sail disgresiwn, fel y caniateir gan y gyfraith.

9.      Beth yw hawliau’r unigolion y mae eu data personol yn cael ei drin gan Heddlu Cymru cyfan? Mae gan unigolion nifer o hawliau o dan RhDDC, y gellir eu gweld o dan erthyglau 12 i 22 o’r rheoliad. Isod mae hawliau cyffredin sy’n debygol o fod yn berthnasol i brosesu gwybodaeth Heddlu Cymru cyfan:

        i.            Hawl unigolion i gael gafael ar wybodaeth bersonol sy’n cael ei gadw amdanynt 'Cais Mynediad i Bwnc'

Yr hawl mwyaf cyffredin yw cais am gopi, gydag eithriadau, o’u data personol wedi ei brosesu gan Heddlu Cymru cyfan. Gellir cael manylion y broses geisiadau ar ein tudalen ‘Mynediad i Bwnc' ar ein gwefan.

Neu gall unigolion cysylltu â’n Swyddog Diogelu Data (gweler adran 12 isod).

      ii.            Gwnaiff Heddlu Cymru cyfan ddweud yn glir yn ein hysbysiadau preifatrwydd gwasanaeth penodol y rheswm gwnaethom gasglu’r wybodaeth honno. Os mai’r sail gyfreithlon oedd am y rhesymau canlynol, yna bydd gan unigolion hawl i wrthwynebu i’r prosesu hwnnw, (yn amodol ar eithriadau):

  • Cyflawni gorchwyl a oedd o ddiddordeb i’r cyhoedd neu weithredu awdurdod swyddogol a ymddiriedwyd yn Heddlu Cymru cyfan
  • I ddibenion ymchwil gwyddonol neu hanesyddol

Fodd bynnag, gwnaiff Heddlu Cymru cyfan ystyried a yw eich gwrthwynebiad yn briodol o dan y seiliau hyn. Bydd yn dibynnu ar y cyfiawnhad a’r rhesymau a roddir. Pwysir a mesurir y rhain yn erbyn angen Heddlu Cymru cyfan i brosesu’r wybodaeth honno a rhoddir ymateb yn amlinellu ein penderfyniad.

Gellir gyrru cais i wrthwynebu prosesu gwybodaeth bersonol at y Swyddog Diogelu Data (gweler adran 12 isod).

    iii.            Yr hawliau i wrthwynebu penderfynu a phroffilio awtomataidd

Er ei fod yn annhebygol y gwnaiff Heddlu Cymru cyfan wneud penderfyniad awtomataidd nad yw’n cynnwys rhywfaint o elfen bod dynol, mae’r RhDDC yn darparu ar gyfer yr hawl benodol hon mewn achosion lle gall hyn ddigwydd. Yn amodol ar eithriadau penodol, mae gan unigolyn yr hawl i ofyn i Heddlu Cymru cyfan sicrhau na wneir penderfyniad gan Heddlu Cymru cyfan a fyddai’n eu heffeithio’n sylweddol, nag ar ein rhan, dim ond drwy ddefnyddio meddalwedd gwneud penderfyniadau awtomataidd. Os oes elfen bod dynol wrth wneud penderfyniad, nid yw’r hawl yn berthnasol.

Gellir gyrru cais i wrthwynebu gwneud penderfyniad neu broffilio awtomataidd at y Swyddog Diogelu Data (gweler adran 12 isod).

    iv.            Yr hawl i fod yn anghofiedig (yr hawl i ddileu data personol)

Mae gan unigolion yr hawl i ofyn i Heddlu Cymru cyfan ddileu gwybodaeth bersonol a ddelir amdanynt. Fodd bynnag, nid yw’r hawl hon yn berthnasol ym mhob achos.

Os cafodd Heddlu Cymru cyfan wybodaeth am unigolyn gyda’u caniatâd, a’i fod yn berthnasol i wybodaeth nad oes gofyn i gadw’n ôl y gyfraith neu ei gadw am amser cyfyngedig tra mae cwyn neu ffenest apêl yn agored, yna mae’n debyg ein bod yn gallu cydymffurfio gyda chais i ddileu’r wybodaeth.

Fodd bynnag, os yw Heddlu Cymru cyfan yn dibynnu ar sail gyfreithiol arall i brosesu data personol yna gellir gwrthod cais am ddata o dan yr eithriadau perthnasol. Gellir gwneud hyn os oes gofyn i ni gadw’r data yn unol â’n hamserlen gadw neu er mwyn gallu trin cwynion neu apeliadau.

Gellir gyrru cais i ddileu gwybodaeth bersonol fel y disgrifiwyd uchod at y Swyddog Diogelu Data (gweler adran 12 isod).

      v.            Yr hawl i gywiro neu gyfyngu prosesu data personol

Os yw unigolyn yn teimlo fod Heddlu Cymru cyfan yn dal gwybodaeth amdanynt sy’n anghywir, mae ganddynt yr hawl i ofyn am gywiriad. Gall hyn fod yn wybodaeth a deimlir ei fod yn anghyflawn neu’n ffeithiol anghywir.

Os yw’r wybodaeth i’w chywiro neu ei dadlau amdani ac angen mwy o amser i sefydlu cywirdeb y data, gallwch ofyn hefyd i’r wybodaeth bersonol gael ei chyfyngu fel nad yw prosesu’r wybodaeth honno ymhellach yn digwydd. Os yw’n angenrheidiol gwneud, gwneir hynny mewn ffordd gyfyngedig.

Gellir gyrru cais am gywiriad neu gyfyngiad at y Swyddog Diogelu Data (gweler adran 12 isod).

    vi.            Yr hawl i symud data

Mae gan unigolion hawl i gopi o’u data personol mewn fformat electronig hawdd cael ato. Gellir trosglwyddo hwn i system arall (ar ffurf strwythuredig, a ddefnyddir yn aml ac a ellir ei ddarllen ar beiriant).

Mae’r hawl hon ond yn berthnasol i’r data personol a roddwyd i Heddlu Cymru cyfan gan unigolion. Nid yw’n cynnwys data a grëwyd gan Heddlu Cymru cyfan yn ystod prosesu’r data hwnnw. Mae’r hawl hon ond yn berthnasol os proseswyd y data o dan y sail gyfreithlon sef caniatâd neu ar gyfer cyflawni cytundeb.

Gellir gyrru cais i symud data at y Swyddog Diogelu Data (gweler adran 12 isod).

  vii.            Yr hawl i gwyno wrth Heddlu Cymru cyfan a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

Yr ICO yw’r awdurdod goruchwylio sy’n gyfrifol am gynnal y RhDDC a deddfwriaeth Diogelu Data perthnasol yn y DU. Mae gennych yr hawl i gwyno wrth yr ICO os credwch fod prosesu data personol yn torri’r RhDDC neu ddeddfwriaeth Diogelu Data perthnasol. Fodd bynnag, awgryma canllaw’r ICO y dylai cwynion gael eu cyfeirio at y ‘Rheolwr’. Yn yr achos hwn, Heddlu Cymru cyfan ydyw. Mae hyn yn y lle cyntaf er mwyn caniatáu Heddlu Cymru cyfan i ymdrin ag unrhyw bryderon yn iawn yn gyntaf.

Pan hoffech wneud cwyn diogelu data gyda Heddlu Cymru cyfan o ran eich data personol, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion a roddir o dan yr adran cysylltwch â ni..

Os, ar ôl gwneud cwyn diogelu data wrth Heddlu Cymru cyfan, rydych yn parhau i deimlo nag ymdriniwyd â’ch pryderon yn llawn, gallwch gysylltu â’r ICO ar y manylion isod:

The Information Commissioner's Office,

Wycliffe House,

Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Ffôn: 01625 545700 neu 0303 123 1113 (cyfradd leol)

Gwefan: https://ico.org.uk/

10.  Am faint mae Heddlu Cymru cyfan’n cadw data personol?

Mae Heddlu Cymru cyfan gadw data personol cyhyd a’i fod yn angenrheidiol i’r diben neu’r dibenion y delir ef. Delir ein gwybodaeth yn unol â’n hamserlen Cadw, Adolygu a Gwaredu.

11.  Monitro

Gall Heddlu Cymru cyfan fonitro neu gofnodi neu gadw galwadau ffôn, negeseuon testun, negeseuon e-bost a chyfathrebiadau electronig eraill i ac oddi wrth Heddlu Cymru cyfan er mwyn atal, rhwystro a chanfod gweithgarwch amhriodol neu droseddol. Gwneir er mwyn sicrhau diogelwch, ac er mwyn cynorthwyo’r dibenion a ddisgrifir o dan adran 1 uchod.

12.  Cysylltwch â ni

Er mwyn ymarfer unrhyw un o’r hawliau o dan adran 9 uchod sy’n berthnasol i ddata personol yn cael ei ddal gan Heddlu Cymru cyfan, dylai cais gael ei wneud gan ddefnyddio’r manylion isod. Gall unrhyw unigolyn sydd â phryderon ynghylch y ffordd mae Heddlu Cymru cyfan yn trin eu data personol gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion cysylltu o dan yr adran cysylltwch â ni.