Swyddog Cymorth Cymunedol - Swyddi Gwag yn y Dyfodol 2021

Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol

Heddlu Gwent
Swyddi SCCH yn y Dyfodol
Gwasanaethau Plismona Lleol
Plismona Ardal Leol
Ledled yr Heddlu

Rydym wedi creu cofrestr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn swyddi gwag ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol (Swyddog Heddlu) (Heddlu Gwirfoddol) yn y dyfodol. Dyma gyfle gwych i chi roi rhywfaint o fanylion i ni, er mwyn i ni roi gwybod i chi pan fydd swyddi gwag ar gael.

Mae hwn yn gyfle i chi gofrestru eich diddordeb mewn bod yn Swyddog Cymorth Cymunedol gyda Heddlu Gwent. Ar ôl i chi gofrestru byddwn yn gallu rhannu gwybodaeth gyda chi ynghylch dyddiadau ac amseroedd ymgyrchoedd recriwtio.

SYLWER: NID YW HWN YN YMGYRCH RECRIWTIO GWEITHREDOL - OND MAE’N GYFLE I CHI NODI EICH DIDDORDEB MEWN YMGYRCHOEDD RECRIWTIO SWYDDOGION CYMORTH CYMUNEDOL YN Y DYFODOL.

Mae swyddogion cymorth cymunedol yn gweithredu fel cyswllt allweddol rhwng cymunedau lleol a phlismona. Mae hon yn swydd sy'n ymwneud â'r cyhoedd ac mae'r swyddogion yn bresenoldeb mewn iwnifform sy'n hawdd mynd atynt, sy'n cynnig sicrwydd, lleddfu sefyllfaoedd lle mae perygl o wrthdaro, gwella hyder ac ymddiriedaeth, casglu gwybodaeth a meithrin perthynas dda gyda'r gymuned.

Mae swyddogion cymorth cymunedol yn aelodau pwysig o’n tîm plismona cymdogaeth yng Ngwent. Maen nhw'n gweithio'n agos gyda chymunedau yn datrys problemau allweddol ac maen nhw'n cael effaith fawr ar ein nod o leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gradd 4 - £20,619 - £22,833

Oriau gwaith yw 8am tan 12pm ar batrwm sifftiau dros saith diwrnod yr wythnos.

Telir lwfans sifftiau o naill ai 12.5% neu 14% yn ddibynnol ar leoliad ac union oriau gweithio. Telir amser a hanner ar gyfer gweithio ar benwythnos.

Sesiwn wybodaeth - recriwtio Swyddogion Cymorth Cymunedol  

Rydym yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein (Microsoft Teams) ar gyfer recriwtio Swyddogion Cymorth Cymunedol:

Dydd Mercher 18 Ionawr 2023 am 17:00

I gael mwy o wybodaeth am y cyfle cyffrous hwn a gwybodaeth am y broses recriwtio, ymunwch â’n sesiwn wybodaeth ar-lein lle gallwch siarad â swyddogion cymorth cymunedol sy’n gwasanaethu, a’r tîm recriwtio.

I ymuno â’r sesiwn Swyddogion Cymorth Cymunedol ar y dyddiad hwn, cliciwch y ddolen isod: 

Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

 

 

 

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.