Rheolwr - Cyllid a Phartneriaeth
15/04/21 13:00
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar lefel uwch, yn chwilio am a rheoli cyfleoedd i ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth mewn perthynas â chyfleoedd cyllid ac incwm er mwyn cefnogi gweithgareddau plismona a phartneriaeth, yn arbennig dyfarniadau grant a chyllid.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i gyflawni strategaeth cyllid Swyddfa'r Comisiynydd a rheoli rhyngddibyniaethau gan gynnwys gwerthuso cynlluniau a sicrhau bod adroddiadau'n cael eu creu yn unol â phrosesau llywodraethu sefydliadol.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.
Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.
Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.
Rydym yn talu Cyflog Byw i bob aelod o staff a gyflogir gennym ac i staff asiantaeth sy’n gweithio gyda ni.
YMGEISWYR MEWNOL: Sylwer na allwn symud eich cais ymlaen at y cam rhestr fer nes y byddwn wedi derbyn eich ffurflen Cymeradwyaeth Rheolwr Llinell. Cyflwynwch y ffurflen hon erbyn y dyddiad cau. Diolch.
Mae Heddlu Gwent yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig arall (gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig nad ydynt yn amlwg). Rydym hefyd yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl sy’n arddel hunaniaeth LGBT+ ac anabl. Mae Heddlu Gwent yn cynnal rhaglen gweithredu cadarnhaol i roi cymorth i grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli digon. I ddysgu mwy, anfonwch e-bost at Brian a Clare - positive.action@gwent.police.uk neu ewch i dudalen gweithredu cadarnhaol ein gwefan.
Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl â sgiliau Cymraeg.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.