Swyddog Rheoli Contractau

Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent
Staff Heddlu
Caffael
Caffael
Vantage Point
POA
£32,796 - £35,481
Llawn Amser
37
Parhaol
1

01/10/20 13:00


Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngwasanaethau Masnachu a Chaffael ar y Cyd Gwent a De Cymru am Swyddog Rheoli Contractau i arwain y berthynas fasnachol gyda phrif gyflenwyr, gan sicrhau bod materion masnachol yn cael eu negodi’n effeithiol a bod prif gontractau’n darparu gwerth gorau.

Mae'r gwasanaeth heddlu yn cynnig cyfle i ennill profiad mewn cylch caffael gydag ystod eang o nwyddau a gwasanaethau. Bydd deiliad y swydd yn rhan o'r tîm sy'n ymdrin â Gwasanaethau Dioddefwyr a’r Ddalfa, Gwasanaethau Proffesiynol a Gweithredol, Gwasanaethau Corfforaethol a Rheoli Cyfleusterau Meddal, Iwnifform ac Offer Arfau Tanio.

 

Lleoliad y swydd fydd Vantage Point, Cwmbrân ond, yn unol â'n polisi gweithio ystwyth, gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio'n hyblyg, yn y swyddfa a gartref, a bydd angen teithio rhywfaint i fynd i gyfarfodydd.

 

Y meysydd cymhwysedd yn y Proffil Swydd a fydd yn cael eu gwerthuso fel rhan o'r broses ar gyfer llunio rhestr fer yw:

Cyraeddiadau, Gwybodaeth, Profiad a Rydym yn Dadansoddi'n Feirniadol.

Mae'r Canllaw i Ymgeiswyr yn esbonio sut i gyflwyno tystiolaeth mewn perthynas â'r cymwyseddau

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.

Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.

Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.