Cofrestrwch ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda Heddlu Gwent
Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol
Mae bod yn wirfoddolwr cefnogi'r heddlu yn golygu cyfrannu rhywfaint o'ch amser a sgiliau i helpu i wella ansawdd y gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig i'n cymunedau.
Mae gwirfoddolwyr cefnogi'r heddlu yn cynorthwyo ac ychwanegu at waith bob dydd swyddogion a staff yr heddlu. Cofrestrwch eich manylion yma i gael eich hysbysu pan fydd rolau gwirfoddol ar gael. Bydd y rolau gwirfoddol yn amrywio yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth a gellir ymgeisio amdanynt trwy ein tudalen swyddi gwag.
Rydym yn chwilio am bobl 18 oed a hŷn o bob mathau o wahanol gefndiroedd, gydag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i'n cynorthwyo ni. Mae gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio ni waeth beth yw eu rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu agweddau eraill ar amrywiaeth. Bydd gofyn i wirfoddolwyr fynd trwy broses fetio cyn cael eu penodi.
Mae gwirfoddolwyr yn dod ag amrywiaeth eang o brofiadau a sgiliau i'r timau y maent yn eu cefnogi ac maent yn ychwanegu gwerth at waith staff hyfforddedig. Yn aml mae gan wirfoddolwyr gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd sy'n gallu bod o fudd i'r gymuned ehangach hefyd.
Nid yw gwirfoddolwyr cefnogi'r heddlu yn rhan o'r Heddlu Gwirfoddol ac ni fyddant yn cael eu defnyddio yn yr un ffordd.