Gradd Plismona Proffesiynol Cwnstabliaid Heddlu Gwent (01/24)
31/05/24 13:00
YMGYRCH GRADD CYN YMUNO - MEDI 2022
Ydych chi eisiau dilyn gyrfa gyda Heddlu Gwent a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned?
Ydych chi yn eich blwyddyn olaf ar y cwrs BSc/BA mewn Plismona Proffesiynol?
Os felly, dyma gyfle i chi ymuno ag un o'r lluoedd sy'n perfformio orau yn y DU.
Mae Heddlu Gwent yn lansio llwybr mynediad newydd a chyffrous yn 2021. Mae gyrfa mewn plismona yn gofyn am sgiliau, cyfrifoldeb, arweinyddiaeth, menter a dyhead go iawn i wneud gwahaniaeth i gymdeithas. Mae'r radd cyn ymuno yn radd broffesiynol, academaidd, sy'n seiliedig ar wybodaeth, ac mae'r cwricwlwm wedi cael ei lunio i gynnwys pob agwedd ar rôl cwnstabl heddlu ac i'ch helpu chi i wynebu'r her honno.
Ymunwch â ni a helpwch ni i fod y gorau yn deall ein cymunedau ac yn ymateb i’w hanghenion.
I fod yn gymwys i wneud cais i ymuno â Heddlu Gwent trwy gyfrwng y llwybr mynediad hwn, rhaid i ymgeiswyr fod yn eu blwyddyn olaf o astudio ar gyfer Gradd Plismona Proffesiynol pan fyddant yn gwneud cais a rhaid iddynt gyflawni eu gradd cyn cael eu penodi. O ganlyniad bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn treulio llai o amser ar raglen hyfforddiant yn y gwaith.
Rhaid bodloni gofynion cymwysterau cenedlaethol a lleol hefyd ac nid yw cyflawni'r radd yn gwarantu cais llwyddiannus.
Pan fyddwch wedi ymuno â Heddlu Gwent byddwch yn dechrau ar gyfnod prawf o ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn ymgymryd â mwy o ddysgu ac asesiadau seiliedig ar arfer er mwyn dangos eich bod yn gymwys ar gyfer y rôl.
Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen? Dyma beth arall y mae angen i chi ei wybod:
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: 1pm Dydd Gwener 30 Mai 2024.
Bydd y Ganolfan Asesu'n cael ei chynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Chwefror.
MAE’R FFURFLEN GAIS YN GOFYN PA UN AI A YDYCH CHI’N CWBLHAU’CH CWRS YN 2021. CAMGYMERIAD YW HYN. ATEBWCH ‘YDW’ I’R CWESTIWN HWN OS YDYCH CHI YN EICH BLWYDDYN OLAF NEU OS YDYCH CHI EISOES WEDI DERBYN Y CYMHWYSTER.
Dilynwch y cyfarwyddiadau i gwblhau a chyflwyno'r cais ar-lein cyn y dyddiad cau. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried.
Os ydych wedi gwneud cais i fod yn Gwnstabl Heddlu o fewn y tri mis diwethaf, gyda Heddlu Gwent neu unrhyw lu arall, ac wedi bod yn aflwyddiannus yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio, yn anffodus ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar yr achlysur hwn.
Nodwch os ydych yn cwblhau ffurflenni cais ar gyfer mwy nag un ymgyrch recriwtio swyddogion heddlu: gofynnir i chi wneud penderfyniad ynghylch Canolfan Asesu pa lu y byddwch yn bresennol ynddi gan y bydd hyn yn pennu pa lu fydd yn eich arwain trwy'r broses recriwtio.
Mae'r Ganolfan Asesu yn rhan o'r safonau recriwtio cenedlaethol sy'n cael eu gosod gan y Coleg Plismona. Mae manylion y broses Canolfan Asesu bresennol a gwybodaeth bellach ar gael yma:
Cyfeiriwch at wefan Heddlu Gwent am fanylion llawn y rôl, meini prawf cymhwysedd, y broses ymgeisio ac atebion i gwestiynau cyffredin.
Dylai ymgeiswyr sy'n holi am addasiadau rhesymol ychwanegol wneud hynny trwy anfon e-bost at y Tîm Recriwtio Adnoddau Dynol: centralrecruitment@gwent.police.uk
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o grwpiau amrywiol neu leiafrifol heb gynrychiolaeth ddigonol yn y llu. I ddysgu mwy, cysylltwch â Positive.Action@gwent.police.uk
Sylwer: Mae'r ymgyrch hon ar agor i'r rheini sydd yn eu blwyddyn olaf ar y cwrs BSc mewn Plismona Proffesiynol ac sy'n gallu ymuno trwy'r llwybr mynediad cyn ymuno yn unig.
Rydym yn deall efallai y bydd gennych chi ymholiadau naill ai cyn neu yn ystod y broses ymgeisio, felly byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio ar-lein rhwng 9am a 5pm ddydd Llun 11eg o Ionawr. Bydd aelod o'r tîm recriwtio ar gael trwy gydol y dydd i roi cymorth i chi. Cliciwch ar y ddolen isod i siarad ag un o'r tîm yn awr.