Swyddog Gofal Tystion
28/03/24 13:00
Cysylltu â thystion yn unol â'r fframwaith gofal tystion a chadw mewn cysylltiad â'r tyst ar bob cam allweddol o'r broses cyfiawnder troseddol.
Bydd swyddogion gofal tystion yn cynnig gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol a bydd yn gweithredu fel pwynt cyswllt i'r tystion, y llysoedd, Gwasanaeth Erlyn y Goron ac asiantaethau allanol eraill.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.
Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.
Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.
YMGEISWYR MEWNOL: Sylwer na allwn symud eich cais ymlaen at y cam rhestr fer nes y byddwn wedi derbyn eich ffurflen Cymeradwyaeth Rheolwr Llinell. Cyflwynwch y ffurflen hon erbyn y dyddiad cau. Diolch.
Hefyd SWYDDOGION MEWNOL, byddwch yn ymwybodol bod angen i chi fod wedi cwblhau eich cyfnod prawf cyn y gallwch ymgeisio am swyddi eraill.
Sylwer – mae’n rhaid i Ringylliaid fod wedi cwblhau 12 mis yn eu swydd cyn y gallant ymgeisio am swyddi eraill oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Mae Heddlu Gwent yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig arall (gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig nad ydynt yn amlwg). Rydym hefyd yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl sy’n arddel hunaniaeth LGBT+ ac anabl. Mae Heddlu Gwent yn cynnal rhaglen gweithredu cadarnhaol i roi cymorth i grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli digon. I ddysgu mwy, anfonwch e-bost at Brian, Clare a Rima - positive.action@gwent.police.uk neu ewch i dudalen gweithredu cadarnhaol ein gwefan.
Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl â sgiliau Cymraeg.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.