Arweinydd Rheoli Gwybodaeth a Chydymffurfio
04/04/24 13:00
Cyflwynwch CV a datganiad personol ar gyfer y swydd hon.
- Ydych chi'n chwilio am y cam nesaf yn eich gyrfa?
- Ydych chi eisiau bod yn rhan o sefydliad arloesol?
Amdanom ni
Rydym wedi ymroi i gadw ein gwybodaeth yn gywir a diogel er mwyn cefnogi ein gweithrediadau. Fel Arweinydd Llywodraethu Gwybodaeth, byddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn rheoli Risg Gwybodaeth, Asedau Gwybodaeth, Cofnodion o Weithgareddau Prosesu, Digwyddiadau Data, Rhannu Gwybodaeth, Asesiadau o Effaith ar Ddiogelu Data a Rheoli Gwybodaeth ledled y sefydliad. Rydym yn mynd trwy gyfnod o dwf a newid technolegol sylweddol, dyma amser delfrydol i ymuno â ni!
Y swydd
Mae gwybodaeth yn allweddol i gadw pobl yn ddiogel a sicrhau bod y rheng flaen yn ymdrin â throsedd ac amddiffyn dioddefwyr yn llwyddiannus. Mae'r swydd yn rhan o'r sylfaen sy'n gyrru gwaith gorfodi'r gyfraith llwyddiannus.
Rydym yn chwilio am Arweinydd Llywodraethu Gwybodaeth brwdfrydig ac ysgogiadol i arwain ein tîm Llywodraethu Gwybodaeth deinamig, ac i oruchwylio cydymffurfiaeth o ran ein gwybodaeth a data personol. Fel Arweinydd Llywodraethu Gwybodaeth byddwch yn gyfrifol am ddyrannu a darparu tasgau'r tîm a goruchwylio trefnu a rheoli prosesau cydymffurfio ledled y sefydliad. Ble y bo angen byddwch yn darparu hyfforddiant perthnasol, cyfathrebu a chyngor arbenigol ar reoli data, diogelu data, risg gwybodaeth a Rheoli Gwybodaeth yr Heddlu (MoPI).
Cyfrifoldebau
- Rheoli'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth o ddydd i ddydd, dyrannu tasgau a chyd-gysylltu gwaith i ffrydiau gwaith arbenigol er mwyn sicrhau cyngor a chymorth cyson, o ansawdd uchel, ledled yr heddlu.
- Rheoli Asedau Gwybodaeth - goruchwylio'r Weithdrefn Rheoli Asedau Gwybodaeth ledled yr heddlu gan sicrhau bod Perchnogion a Rheolwyr Asedau Gwybodaeth yn ymwybodol o reolau mewnol, rhoi cymorth iddynt a rheoli a chynnal y Gofrestr Asedau Gwybodaeth, gan adrodd wrth uwch reolwyr yn fisol ac yn flynyddol.
- Rheoli Risg Gwybodaeth - goruchwylio Rheoli Risg Gwybodaeth ledled yr heddlu, cyd-gysylltu diweddariadau a rhoi cyngor ar weithredoedd lliniaru priodol, gweithio gyda risg corfforaethol a ffrydiau gwaith eraill i ganfod meysydd o risg y mae angen eu huwchgyfeirio at uwch-reolwyr; rheoli a chadw'r gofrestr Risg Gwybodaeth a rhoi cyngor ar debygolrwydd ac effaith, adnabod a thrin risg gwybodaeth, gyda chyfraniadau gan randdeiliaid perthnasol; darparu adroddiadau i uwch-reolwyr a chysylltu â ffrydiau gwaith eraill; datblygu cyfathrebu ac ymwybyddiaeth o ran risgiau penodol a chyffredinol.
- Cofnodion o Weithgareddau Prosesu/Mapio Data - goruchwylio rhaglen mapio data barhaus i lwytho Cofnod o Weithgareddau Prosesu ar draws yr heddlu, dilysu cofnodion o brosesu a rhoi dulliau ar waith ar gyfer newidiadau ac ychwanegiadau; adnabod meysydd o ddiffyg cydymffurfio a rhoi cyngor ynghylch y rhain; canfod fforymau lle mae gofyn am newidiadau a chymeradwyaeth i sefydlu'r broses hon; rheoli a chynnal y gofrestr yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.
- Rheoli Gwybodaeth - sicrhau bod gwybodaeth gorfforaethol a gweithredol yn cael ei rheoli yn unol ag arfer gorau Rheoli Gwybodaeth yr Heddlu (MoPI) yn defnyddio meddalwedd Microsoft Office a chronfeydd data'r heddlu, ystyried pob fformat gwybodaeth newydd a thechnolegau newydd.
- Archwiliadau Cydymffurfio - cynnal rhaglen o archwiliadau cydymffurfio ar draws yr heddlu yn erbyn meini prawf gosodedig a rheoli argymhellion archwiliadau allanol yn ymwneud â Diogelu Data.
- Datrys a dadansoddi problemau cymhleth.
- Deall deddfwriaeth.
- Adrodd wrth uwch-reolwyr a chyfathrebu gyda chyrff rheoleiddio allanol.
- Datblygu cyfathrebu ac ymwybyddiaeth am y gweithgareddau a nodir uchod.
- Cyfathrebu â phob lefel o hynafedd o fewn yr heddlu.
Strwythur yr Adran
Mae'r Arweinydd Llywodraethu Gwybodaeth yn rhan o Dîm Llywodraethu Gwybodaeth yr adran ac mae'n atebol i'r Swyddog Diogelu Data.
Cyfrifol am drefnu a darparu gwasanaethau busnes dyddiol yn y maes Llywodraethu Gwybodaeth. Cyfrifol am ddatblygu a rheoli Strategaeth Rheoli Gwybodaeth effeithiol ac effeithlon, dyrannu tasgau a chyd-gysylltu gwaith i aelodau'r tîm a monitro cynnydd ac ansawdd y gwaith, gan gynnwys cefnogi prosiectau ac adnabod yr un ymgyrchoedd neu rai tebyg ar draws y ddau heddlu er mwyn osgoi dyblygu gwaith.
Goruchwylio a monitro gwaith i ddarparu cyngor a chymorth cadarn. Rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol ar faterion anarferol ac uwchgyfeirio problemau cymhleth, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth reoli i uwch reolwyr a Phrif Swyddogion a chadw cysylltiad gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau bod gofynion cydymffurfio'n cael eu bodloni a bod y dogfennau priodol yn cael eu cadw. Ymchwilio i ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol, problemau cymhleth, dadleuol neu benodol yn ymwneud â Rheoli Gwybodaeth neu Ddiogelu Data er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth o ddatblygiadau cyfredol. Goruchwylio cyfathrebu a hyfforddiant effeithiol o ran Rheoli Gwybodaeth a Diogelu Data ar draws y ddau heddlu.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.
Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.
Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.
Y buddion rydym yn eu cynnig
Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac rydym yn rhoi digonedd o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich swydd. Rydym hefyd yn cynnig buddion fel y rhai canlynol:
- Hawl i wyliau blynyddol hael sy’n codi i naill ai 27 neu 30 diwrnod yn dibynnu ar raddfa, yn ogystal ag wyth gŵyl banc
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr ac amrywiaeth o raglenni cefnogi lles
- Mynediad am ddim i gampfeydd yn ein safleoedd
- Gostyngiadau gan nifer o fanwerthwyr trwy’r cynllun Blue Light a Cherdyn Vectis
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Gweithio Hybrid/Ystwyth (yn dibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd i weithio’n hyblyg
- Cynllun pensiwn Llywodraeth Leol
- Amrywiaeth o rwydweithiau cefnogi
- Hawl i wyliau mamolaeth/tadolaeth a mabwysiadu hael
- Darpariaethau tâl salwch hael
- Opsiwn i ymaelodi ag UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus
Er mwyn i ni allu darparu gwasanaeth plismona rhagorol i bawb, mae angen pobl o bob cefndir arnom ni, gydag amrywiaeth o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd, fel ein bod yn cynrychioli ein cymunedau go iawn.
Mae gan Heddlu Gwent raglen gymorth gweithredu cadarnhaol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch Brian, Clare a Rima: positive.action@gwent.police.uk neu ewch i’n tudalen gweithredu cadarnhaol yma: Gweithredu Cadarnhaol | Heddlu Gwent
Rydym yn falch i fod yn wasanaeth plismona sy’n siarad Cymraeg ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â sgiliau Cymraeg.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.