Hyfforddwr Dyfeisiau Digidol

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Isdran Gwasanaethau Digidol
Isadran Gwasanaethau Digidol
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
6SO1
£30,783.00 - £35,982.00
Llawn Amser
37
Parhaol
2

24/04/24 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod cadw De Cymru yn ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona.

Rydym yn chwilio am rywun i #YmunoÂNi fel Hyfforddwr Dyfeisiau Digidol yr Is-adran Gwasanaethau Digidol, gan weithio ar draws Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru.

Ai chi yw'r un rydym yn chwilio amdano?

Prif ddiben y rôl yw hyfforddi a thrawsnewid atebion technolegol newydd yn y gweithle er mwyn sicrhau y gellir manteisio i'r eithaf ar y technolegau plismona newydd a ddefnyddir gan swyddogion a staff yr heddlu. Rydym yn chwilio'n benodol am unigolyn a all arwain ein hyfforddiant i ddefnyddwyr Microsoft 365 ar draws Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, yn ogystal â phrosiectau a datrysiadau digidol eraill o bob rhan o'r Is-adran Gwasanaethau Digidol.

Bydd y rôl yn rhoi cymorth technegol ymarferol i bob swyddog ac aelod o staff ar weithredu'r dechnoleg a ddefnyddir ganddynt i gyflawni eu rolau yn llwyddiannus.  Yn ogystal â thiwtora traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth, bydd y rôl yn cynnwys hwyluso grwpiau defnyddwyr yn y maes gweithredol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o fanteision technolegau plismona a'u hymagwedd atynt.

Er mai swydd gyda Heddlu De Cymru yw hon, caiff ei hariannu ar y cyd gan Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, felly mae bod yn weladwy yn y ddau heddlu yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Oherwydd natur y rôl, bydd gofyn i chi deithio'n rheolaidd ledled ardal Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, yn ogystal â theithio i gynadleddau/digwyddiadau y tu allan i ardal yr heddlu yn achlysurol.

Y tîm/Adran y byddwch yn ymuno ag ef/hi:

 

  • Mae'r Is-adran Gwasanaethau Digidol (DSD) yn rhoi strategaeth ddigidol ar y cyd ar waith ar draws Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru er mwyn galluogi'r ddau heddlu i ddatblygu a gweithredu ffyrdd newydd o weithio ac i ddarparu gwasanaethau plismona i'n cymunedau.
  • Mae pedair cangen yn rhan o'r Is-adran Gwasanaethau Digidol a bydd rôl yr Hyfforddwr Dyfeisiau Digidol yn rhan o'n tîm o chwe Hyfforddwr yn yr Is-adran, sy'n rhan o gangen Ymchwilio, Datblygu a Thrawsnewid yr Is-adran.
  • Mae ein swyddfa wedi'i lleoli ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond rydym yn cynnig polisi gweithio hybrid sy'n golygu y gallwch weithio o'ch cartref.
  • Disgwylir i hyfforddwyr dreulio ychydig o'u hamser yng Ngorsafoedd yr Heddlu yn ardaloedd Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru er mwyn sicrhau bod timau rheng flaen y ddau heddlu yn gallu eu gweld a chael gafael arnynt.

 

Y rôl a'ch prif gyfrifoldebau:

 

  • Bydd y rôl yn cynnwys arwain ein hyfforddiant ar raglenni a nwyddau Microsoft 365 ar gyfer defnyddwyr terfynol, gan gynnwys rhoi hyfforddiant hybrid, sydd wedi cael ei addasu yn unol ag anghenion adrannau a defnyddwyr ar draws y ddau sefydliad.
  • Yn ogystal â hynny, byddwch yn arwain ac yn cefnogi'r broses o hyfforddi llwyfannau/datrysiadau digidol eraill sydd wedi'u cynhyrchu yn yr Is-adran Gwasanaethau Digidol, megis apiau symudol y mae ein datblygwyr e-wasanaethau wedi bod yn gweithio arnynt.
  • Byddwch yn mynd i amrywiaeth o gyfarfodydd fel rhan o'ch dyletswyddau o ddydd i ddydd er mwyn deall cynnydd datrysiadau sydd wrthi'n cael eu datblygu, gan sicrhau bod yr hyfforddiant ar gyfer y datrysiad yn rhan o gynlluniau'r prosiect.
  • Yn ogystal â hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein, bydd disgwyl i chi lunio canllawiau ysgrifenedig a fideo ar gyfer ein datrysiadau digidol.
  • Disgwylir i'n holl Hyfforddwyr Dyfeisiau Digidol yn yr Is-adran Gwasanaethau Digidol gynnal sesiynau Cymorth rheolaidd ar draws Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, gan gwmpasu'r portffolio cyfan o ddatrysiadau/cynhyrchion yr Is-adran, felly bydd angen datblygu dealltwriaeth sylfaenol o holl ddatrysiadau/cynhyrchion yr Is-adran yn y rôl.
  • Bydd aelodau o'r tîm hefyd yn cefnogi gweithrediadau yn yr Is-adran Gwasanaethau Digidol, megis rhoi dyfeisiau (ffonau symudol, gliniaduron, fideo a wisgir ar y corff ac ati) ar waith ar raddfa fawr, neu gefnogi defnyddwyr rheng flaen wrth iddynt ddefnyddio datrysiadau digidol yn ystod digwyddiadau critigol neu fawr.

 

Pa sgiliau a phrofiad y mae angen i chi eu cynnig i'r rôl:

 

  • Rydym yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth ymarferol ragorol am nwyddau Microsoft 365, er mwyn gallu rhoi hyfforddiant i ddefnyddwyr terfynol ar draws Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru.
  • Byddwch yn gyfforddus yn siarad o flaen grwpiau o Swyddogion a Staff yr Heddlu ar bob rheng/gradd er mwyn rhoi hyfforddiant a chyflwyniadau.
  • Bydd gennych ymrwymiad clir i'ch Datblygiad Proffesiynol Parhaus, gan osod esiampl i'r rhai y byddwch yn eu haddysgu.
  • Rydym yn chwilio am rywun sy'n meddu ar sgiliau cyfrifiadurol a'r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft yn ogystal â gallu defnyddio datrysiadau TG yn fedrus ar y cyfan, gan ddangos diddordeb mewn datrys problemau.

 

Os ydych yn meddu ar y sgiliau hanfodol hyn, dyma'r swydd i chi a hoffem glywed gennych.

Mae'r rôl hon yn addas i weithwyr rhan amser/rhannu swydd.

Rhaid i'r Ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel Fetio Rheoli a Chliriad Diogelwch.

Noder, os ydych yn destun ymchwiliad gan yr Adran Safonau Proffesiynol ar hyn o bryd, gall eich penodiad neu'ch lleoliad yn y rôl gael ei oedi hyd nes y ceir canlyniad yr ymchwiliad hwnnw. Ystyrir p'un a gaiff y rôl ei chadw'n agored fesul achos.

Mae buddiannau niferus yn gysylltiedig â gweithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sydd â'r nod o wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch ag Arolygydd y tîm Gareth.Tanswell@gwent.police.uk neu'r Rhingyll Daniel.Fallon@gwent.police.uk

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC

Noder, os ydych yn destun ymchwiliad PSD parhaus, efallai y bydd eich apwyntiad neu leoliad yn y rôl yn cael eu gohirio wrth aros am ganlyniad. Bydd p'un a yw'r rôl yn cael ei chadw'n agored yn cael ei hystyried fesul achos 

Eich tro cyntaf yn gwneud cais am rôl gyda Heddlu De Cymru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar wneud cais er mwyn cael cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â'r ffurflen gais a'r hyn i'w ddisgwyl, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. Noder, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at y lefel ofynnol.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.