Cyfreithiwr (Plismona Gweithredol)
11/11/20 12:00
Cyfreithiwr Plismona Gweithredol
Rydym yn awyddus i benodi cyfreithiwr gwybodus a medrus i ymuno â Chydwasanaethau Cyfreithiol Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Penodiad parhaol yw hwn a bydd yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu ymgymryd â llwythi gwaith sy'n bodoli eisoes ac ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel SCMV. Bydd angen iddo weithio o leoliad(au) yn yr ardal y mae gan Heddlu De Cymru a/neu Heddlu Gwent gyfrifoldeb amdani.
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer gwaith rhan-amser/rhannu swydd. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at lefel SC/ MV.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ffoniwch Uwch-gyfreithiwr y Cydwasanaeth Cyfreithiol (Louise Emmitt) ar 01656 869476.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer y swydd hon yw 11eg o Dachwedd 2020 am 12:00.
Cynhelir cyfweliadau ar y 13ain o Dachwedd 2020.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.
Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.
Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.
Rydym yn talu Cyflog Byw i bob aelod o staff a gyflogir gennym ac i staff asiantaeth sy’n gweithio gyda ni.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.