Nyrs Iechyd Meddwl
11/04/24 13:00
Staff mewnol - swydd ar secondiad am hyd at 12 mis (cyfnod mamolaeth) neu
Allanol - Contract Tymor Penodol am hyd at 12 mis.
Mae cyfle cyffrous ar gael i Nyrs Iechyd Meddwl Cofrestredig (RMN) ymuno â'r Tîm Iechyd Galwedigaethol i roi cymorth a chyngor i'r tîm clinigol, swyddogion a staff mewn perthynas â materion iechyd meddwl.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd addas arwain y tîm ar faterion iechyd meddwl, cadw mewn cysylltiad â staff a rheolwyr, brysbennu atgyfeiriadau rheolwyr a chynnal ymgynghoriadau rheoli achos.
Bydd angen arwain ar waith monitro seicolegol a chadw mewn cysylltiad ag asiantaethau allanol ble y bo'n briodol.
Mae gwybodaeth dda am therapi gwybyddol ymddygiadol yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.
Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.
Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.
Nid yw swyddogion heddlu sy’n gwasanaethu yn gymwys i ymgeisio ar gyfer swyddi gwag mewnol staff yr heddlu.
Y buddion rydym yn eu cynnig
Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac rydym yn rhoi digonedd o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich swydd. Rydym hefyd yn cynnig buddion fel y rhai canlynol:
- Hawl i wyliau blynyddol hael sy’n codi i naill ai 29 neu 30 diwrnod yn dibynnu ar raddfa, yn ogystal ag wyth gŵyl banc
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr ac amrywiaeth o raglenni cefnogi lles
- Mynediad am ddim i gampfeydd yn ein safleoedd
- Gostyngiadau gan nifer o fanwerthwyr trwy’r cynllun Blue Light a Cherdyn Vectis
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Gweithio Hybrid/Ystwyth (yn dibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd i weithio’n hyblyg
- Cynllun pensiwn Llywodraeth Leol
- Amrywiaeth o rwydweithiau cefnogi
- Hawl i wyliau mamolaeth/tadolaeth a mabwysiadu hael
- Darpariaethau tâl salwch hael
- Opsiwn i ymaelodi ag UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus
Er mwyn i ni allu darparu gwasanaeth plismona rhagorol i bawb, mae angen pobl o bob cefndir arnom ni, gydag amrywiaeth o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd, fel ein bod yn cynrychioli ein cymunedau go iawn.
Mae gan Heddlu Gwent raglen gymorth gweithredu cadarnhaol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch Brian, Clare a Rima: positive.action@gwent.police.uk neu ewch i’n tudalen gweithredu cadarnhaol yma: Gweithredu Cadarnhaol | Heddlu Gwent
Rydym yn falch i fod yn wasanaeth plismona sy’n siarad Cymraeg ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â sgiliau Cymraeg.
Hefyd SWYDDOGION MEWNOL, byddwch yn ymwybodol bod angen i chi fod wedi cwblhau eich cyfnod prawf cyn y gallwch ymgeisio am swyddi eraill.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.