Yn Heddlu Gwent, rydym wedi ymroi i gefnogi’r gymuned filwrol. Rydym yn cydnabod bod gan unigolion â phrofiad milwrol sgiliau trosglwyddadwy sy’n werthfawr ar gyfer swyddi yn ein heddlu.
Pan fyddwch yn cofrestru gyda ni, byddwn yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth am swyddi gwag a digwyddiadau sydd ar ddod. Cewch gyfle i ddysgu am ein prosesau recriwtio a dewis, rôl plismona, swyddi gwag ar gyfer staff yr heddlu, a manteision gweithio i Heddlu Gwent.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’n tîm, ewch i’n tudalen gyrfaoedd: Ymunwch â ni | Heddlu Gwent
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost atom ni: centralrecruitment@gwent.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.