Cwnstabl Heddlu Gwent (07/22)

Heddlu Gwent
Swyddog Heddlu
Plismona Ardal Leol
Plismona Ardal Leol
Ledled yr Heddlu
Swyddog Heddlu
40
1

27/09/22 23:55

Heddlu Gwent – Rydym yn recriwtio swyddogion heddlu yn awr!

 

Gweithio yn:                 Heddlu Gwent, trwy ardal gyfan y Llu

Dyddiad cau:              Dydd Sul 11 Medi 2022 am 13:00

Graddfa Gyflog:           Dechrau ar £23,556, codi i £43,030 o fewn wyth mlynedd

 

Mae Heddlu Gwent eisiau recriwtio Cwnstabliaid newydd ar gyfnod prawf. Fel Cwnstabl Heddlu mae pob diwrnod yn wahanol, gyda heriau newydd ac mae'n gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i'r gymuned. Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig ac ymroddgar a fydd yn rhannu ein gweledigaeth; i ddeall ac ymateb i anghenion y gymuned yn y ffordd orau posibl; i amddiffyn y bobl fwyaf bregus, dal troseddwyr a chadw'r cyhoedd yn ddiogel, gan ymddwyn yn ôl y Cod Moeseg Plismona a gwerthoedd Heddlu Gwent.

 

Gofynion:-

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn 17 oed pan fyddant yn cyflwyno cais ond RHAID iddynt fod yn 18 oed pan fyddant yn dechrau eu cyflogaeth.
  • Rhaid bod gan ymgeiswyr drwydded yrru lawn (nid trwydded ar gyfer cerbyd awtomatig) cyn i lythyr o gynnig gael ei gyflwyno.
  • Rhaid i ymgeiswyr allu ymrwymo'n llawn i'r cwrs. Mae amserlen brysur o hyfforddiant cysylltiedig â gwaith yn ogystal â chwblhau dysgu a arweinir gan y Brifysgol

 

Mae manylion y Ganolfan Asesu'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd ond bydd yn digwydd rhywbryd yn Hydref 2022. Byddwn yn rhoi'r union ddyddiad i chi pan fydd wedi cael ei gadarnhau, os yw eich cais yn llwyddiannus. Sylwer: pan fydd y dyddiadau wedi cael eu cadarnhau, dyma'r unig ddyddiau a fydd ar gael ar gyfer yr ymgyrch recriwtio hwn.  

 

Er gwybodaeth:

Bydd y Ganolfan Asesu Ar-lein yn cael ei chynnal rhwng 29 Tachwedd - 06 Rhagfyr 2022.

Cynhelir Cyfweliadau'r Heddlu rhwng ddechrau Ionawr 2023.

Y cynharaf sydd ar gael fydd 27 Mawrth 2023. Er mwyn cadw'r broses yn deg ac yn dryloyw, dyrennir cymeriant i ymgeiswyr yn seiliedig ar eu sgoriau cyfweliad (ymgeiswyr â'r sgôr uchaf wedi symud ymlaen yn gyntaf)

Sylwer: Trwy gydol y broses bydd ymholiadau a gohebiaeth, gan gynnwys dogfennau, yn cael eu derbyn a'u hanfon gan centralrecruitment@gwent.police.uk yn ogystal â noreply@policejobswales.tal.net

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o grwpiau amrywiol neu leiafrifol heb gynrychiolaeth ddigonol yn y llu. I ddysgu mwy, cysylltwch â Positive.Action@gwent.police.uk

I gael manylion y swydd a'r broses cyn y sesiynau ymwybyddiaeth, ewch i Swyddogion yr heddlu | Heddlu Gwent


Ymgeiswyr sydd am ailsefyll

Ni chaniateir i ymgeiswyr gwblhau'r broses asesu fwy nag unwaith mewn unrhyw gyfnod o dri mis. Gall ymgeiswyr nad ydynt yn llwyddiannus ail ymgeisio dri mis ar ôl cwblhau'r broses (o ddyddiad derbyn eu canlyniadau). Bydd gofyn iddynt ail wneud y broses gyfan. Dylid nodi mai dim ond unwaith mewn cyfnod o 12 mis y gall ymgeiswyr nad ydynt yn llwyddiannus wneud cais i ailsefyll.


Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.