Swyddog Cymorth Cymunedol

Heddlu Gwent
SCCH
Gwasanaethau Plismona Lleol
Plismona Ardal Leol
Ledled yr Heddlu
SC4
£21,837 - £24,156
Sifft, Gweithio Penwythnos
12.5%
Llawn Amser
Parhaol
1

01/11/22 17:00

Swyddog Cymorth Cymunedol (Chwefror 2023)

Cyfnod recriwtio’n dechrau: 29/09/2022 am 13:00

Dyddiad cau: 24/10/2022 am 13:00

Ydi gwneud gwahaniaeth yn bwysig i chi yn eich swydd? Os felly, gallai rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCC) fod yn ddelfrydol i chi.

Swyddogion Cymorth Cymunedol sy’n darparu’r cyswllt hollbwysig hwnnw rhwng y gymuned a’r gwasanaeth heddlu i helpu i sicrhau bod pawb yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yn gallu bod yn heriol ond mae hefyd yn rôl sy’n amrywiol, ystyrlon a chyffrous.

Byddwch yn cefnogi plismona rheng flaen trwy gyflawni tasgau fel atal pobl rhag gyrru’n rhy gyflym y tu allan i’n hysgolion, riportio fandaliaeth, neu leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau Gwent.

Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yn gweithredu fel cyswllt allweddol rhwng cymunedau lleol a phlismona. Mae hon yn swydd sy'n ymwneud â'r cyhoedd ac mae'r swyddogion yn bresenoldeb mewn iwnifform sy'n hawdd mynd atynt, sy'n tawelu meddwl, lleddfu sefyllfaoedd lle mae perygl o wrthdaro, gwella hyder ac ymddiriedaeth, casglu gwybodaeth a meithrin perthynas dda gyda'r gymuned.

Gofynion:

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hyn i wneud cais.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod o fewn ystod BMI o rhwng 18 - 32, neu fod o fewn yr ystod hon erbyn Rhagfyr 2022.
  • Rhaid i ymgeiswyr allu gwblhau prawf rhedeg (prawf blip) at lefel 5:4.
  • Mae angen isafswm o TGAU gradd A-C mewn Mathemateg a Saesneg ar ymgeiswyr neu rhaid iddynt lwyddo yn y profion rhesymu geiriol a chyfrifo ar-lein.

 

Meini prawf cymhwyso

  • Estynnir gwahoddiad i bobl nad oes ganddynt gymhwyster TGAU (gradd A-C) mewn Mathemateg a Saesneg gymryd rhan yn y prawf rhesymu geiriol a rhifiadol yn rhan o’r broses ymgeisio ar-lein.

 

  • Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster lefel 2 yn Saesneg a Mathemateg (A-C neu uwch) ond sydd â chymhwyster Lefel 3 neu uwch yn cael eu hasesu i weld a oes angen iddynt gwblhau’r prawf rhesymu geiriol a rhifiadol ar-lein. Please Ticiwch Oes os oes gennych chi gymhwyster lefel 3 neu uwch ar y cais dechreuol.

 

Cyflog a Buddiannau

Gradd 4 - £21,837 - £24,156

Cyflog posibl o £26,000 i £29,000 gan gynnwys lwfans sifft a mwy o gyflog am weithio ar benwythnos.

Telir lwfans sifftiau o naill ai 12.5% neu 14% yn ddibynnol ar leoliad ac union oriau gweithio. Telir amser a hanner am weithio ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Oriau gwaith yw 8am tan 12pm ar batrwm sifftiau dros saith diwrnod yr wythnos.

 

Er gwybodaeth

Sylwer: os byddwch yn llwyddiannus yn yr asesiadau ar-lein, bydd gofyn i chi fod ar gael ar y dyddiadau canlynol:

Cyfweliadau:

W/d 31 Hydref 2022

Gwiriadau Cyn Cyflogaeth:

Profion Cyffuriau/Biometrig

 

7 neu 8 Rhagfyr 2022

Prawf Ffitrwydd

12 Rhagfyr 2022

Gwiriadau Iechyd

(Nifer o ddyddiadau ar gael)

29 Tachwedd 2022 – 9 Rhagfyr 2022

Bydd y garfan hon o Swyddogion Cymorth Cymunedol yn dechrau ar 6 Chwefror 2023. 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan grwpiau amrywiol neu leiafrifol nad ydynt yn cael eu cynrychioli digon yn y llu. I ddysgu mwy, cysylltwch â Positive.Action@gwent.police.uk

 

 

Er gwybodaeth:

 

Byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio ar Microsoft Teams ddydd Iau 20 Hydref a dydd Gwener 21 Hydref i gynorthwyo unrhyw ymholiadau sydd gennych chi am y broses recriwtio. Bydd SCC ar gael hefyd os oes gennych chi unrhyw ymholiadau penodol am y swydd. Gallwch ymuno â’r sgwrs rhwng 12pm a 2pm tra bod yr hysbyseb ar agor trwy glicio ar y ddolen isod:

Dolen: Click here to join the meeting

 


Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.