Swyddog Cymorth Cymunedol

Heddlu Gwent
SCCH
Gwasanaethau Plismona Lleol
Plismona Ardal Leol
Ledled yr Heddlu
SC4
£23,100 - £25,353
Sifft, Gweithio Penwythnos
12.5%
Llawn Amser
Parhaol
1

19/02/23 13:00

Swyddog Cymorth Cymunedol (MAI 2023)

Ydi gwneud gwahaniaeth yn bwysig i chi yn eich swydd? Os felly, gallai rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCC) fod yn ddelfrydol i chi.

Swyddogion Cymorth Cymunedol sy’n darparu’r cyswllt hollbwysig hwnnw rhwng y gymuned a’r gwasanaeth heddlu i helpu i sicrhau bod pawb yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yn gallu bod yn heriol ond mae hefyd yn rôl sy’n amrywiol, ystyrlon a chyffrous.

Byddwch yn cefnogi plismona rheng flaen trwy gyflawni tasgau fel atal pobl rhag gyrru’n rhy gyflym y tu allan i’n hysgolion, riportio fandaliaeth, neu leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau Gwent.

Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yn gweithredu fel cyswllt allweddol rhwng cymunedau lleol a phlismona. Mae hon yn swydd sy'n ymwneud â'r cyhoedd ac mae'r swyddogion yn bresenoldeb mewn iwnifform sy'n hawdd mynd atynt, sy'n tawelu meddwl, lleddfu sefyllfaoedd lle mae perygl o wrthdaro, gwella hyder ac ymddiriedaeth, casglu gwybodaeth a meithrin perthynas dda gyda'r gymuned.

Gofynion:

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn 17 oed pan fyddant yn cyflwyno cais ond RHAID iddynt fod yn 18 oed pan fyddant yn dechrau eu cyflogaeth.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod o fewn ystod BMI o rhwng 18 - 32, neu fod o fewn yr ystod hon erbyn Ebrill 2023.
  • Rhaid i ymgeiswyr allu gwblhau prawf rhedeg (prawf blip) at lefel 5:4.
  • Mae angen isafswm o TGAU gradd A-C mewn Mathemateg a Saesneg ar ymgeiswyr neu rhaid iddynt lwyddo yn y profion rhesymu geiriol a rhifiadol ar-lein.

 

Meini prawf cymhwyso

  • Estynnir gwahoddiad i bobl nad oes ganddynt gymhwyster TGAU (gradd A-C) mewn Mathemateg a Saesneg gymryd rhan yn y prawf rhesymu geiriol a rhifiadol yn rhan o’r broses ymgeisio ar-lein.
  • Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster lefel 2 yn Saesneg a Mathemateg (A-C neu uwch) ond sydd â chymhwyster Lefel 3 neu uwch yn cael eu hasesu i weld a oes angen iddynt gwblhau’r prawf rhesymu geiriol a rhifiadol ar-lein. Please Ticiwch Oes os oes gennych chi gymhwyster Lefel 3 neu uwch ar y cais dechreuol.

 

 

Cyflog a Buddiannau

Gradd 4 - £23,100 - £25,353

Cyflog posibl o £26,000 i £29,000 gan gynnwys lwfans sifft a mwy o gyflog am weithio ar benwythnos.

Telir lwfans sifftiau o naill ai 12.5% neu 14% yn ddibynnol ar leoliad ac union oriau gweithio. Telir amser a hanner am weithio ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Oriau gwaith yw 8am tan 12pm ar batrwm sifftiau dros saith diwrnod yr wythnos.

 

Er gwybodaeth

Sylwer: os byddwch yn llwyddiannus yn yr asesiadau ar-lein, bydd gofyn i chi fod ar gael ar y dyddiadau canlynol:

Cyfweliadau:

W/d 20 Chwefror 2023

Gwiriadau cyn cyflogaeth:

Profion Cyffuriau/Biometrig

 

21 NEU 22 Mawrth 2023

Prawf Ffitrwydd

31 Mawrth 2023

Gwiriadau Iechyd (Nifer o ddyddiadau ar gael)

6 Mawrth 2023 – 10 Mawrth 2023

Bydd y garfan hon o Swyddogion Cymorth Cymunedol yn dechrau ar 15 Mai 2023. 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan grwpiau amrywiol neu leiafrifol nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn yr heddlu. I ddysgu mwy, cysylltwch â Positive.Action@gwent.police.uk


Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.