Gweithredu Cadarnhaol – Swyddi Gwag yn y dyfodol

Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol

Heddlu Gwent
Swyddi Staff yr Heddlu yn y Dyfodol

Dyma gyfle i chi gofnodi bod gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am swyddi gyda Heddlu Gwent. Byddwn yn gallu rhoi gwybod i chi am unrhyw swyddi gwag unwaith y byddwch wedi cofrestru eich manylion.

SYLWER: NID YMGYRCH RECRIWTIO GWEITHREDOL YW HWN – DIM OND CYFLE I CHI GOFNODI EICH DIDDORDEB YN EIN SWYDDI GWAG AR GYFER STAFF YR HEDDLU.

Nid swydd i swyddogion heddlu yn unig yw plismona. Mae’n gofyn am waith gan dîm mawr amlddisgybledig sy’n cydweithio ac yn manteisio i’r eithaf ar y sgiliau a’r adnoddau sydd ar gael. Mewn gwirionedd, mae cyfran fawr o’n gweithlu yn cynnwys swyddogion mewn iwnifform a staff sydd ddim mewn iwnifform. Mae’r swyddi hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn cefnogi plismona rheng flaen.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn swydd sy’n ymwneud â’r cyhoedd neu os ydych am chwarae eich rhan y tu ôl i’r llenni, mae nifer o opsiynau gyrfa ar gael mewn amrywiaeth o swyddi proffesiynol, technegol a gweinyddol ar draws yr adrannau canlynol a llawer mwy:

  • Gwasanaethau Ystadau ac Adnoddau
  • Cyfathrebu Corfforaethol 
  • Uned Cymorth Gwyddonol (gan gynnwys gwyddoniaeth fforensig)
  • Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Plismona Ardal Leol (Plismona Lleol, Cymorth Gweithredol a Gwasanaethau Diogelu)
  • Y Ddalfa, Cyfiawnder Troseddol a Rheoli Data
  • Cyllid
  • Gwasanaethau Pobl (Adnoddau Dynol, Dysgu a Datblygu, Rheoli Talent ac Iechyd Galwedigaethol)
  • Caffael
  • Safonau Proffesiynol
  • Strategaeth, Perfformiad a Newid (Dadansoddi ac Ymchwil)

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.