Ymgyrch Gradd Cyn Ymuno Heddlu De Cymru mewn Plismona Proffesiynol Hydref 2021

Heddlu De Cymru
Swyddog Heddlu
Ledled yr Heddlu
Swyddog Heddlu
40
2

09/11/21 12:00

YMGYRCH GRADD CYN YMUNO HEDDLU DE CYMRU MIS IONAWR 2021

Ydych chi am ddilyn gyrfa gyda Heddlu De Cymru?

Ydych chi am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau De Cymru?

Ydych chi wedi ennill Gradd Cyn Ymuno ym maes Plismona Proffesiynol neu a ydych yn eich blwyddyn olaf?

Os felly, mae hwn yn gyfle i ymuno ag un o'r heddluoedd sy'n perfformio orau yn y du.

PLEASE NOTE THE APPLICATION FORM ASKS IF YOU ARE DUE TO COMPLETE IN 2021. THIS IS AN ERROR. PLEASE ANSWER YES TO THIS QUESTION IF YOU ARE IN YOUR FINAL YEAR OR HAVE ALREADY ACHEIVED THE QUALIFICATION.

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel. Bydd Heddlu De Cymru yn dechrau llwybr newydd cyffrous er mwyn i bobl ddod yn swyddogion yr heddlu yn 2022 Mae gyrfa plismona yn gofyn am sgiliau, cyfrifoldeb, arweinyddiaeth, mentergarwch ac awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais i Heddlu De Cymru drwy'r llwybr hwn, mae'n rhaid i ymgeiswyr ennill eu Gradd Cyn Ymuno ym maes Plismona Proffesiynol cyn gwneud cais i ymuno â gwasanaeth yr heddlu. Neu, rhaid iddynt fod ym mlwyddyn olaf eu gradd ar adeg y cais ac ennill eu gradd cyn cael eu penodi. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael budd o raglen hyfforddiant mewn swydd fyrrach.

Mae HDC yn derbyn Graddau BSc/BA ym maes Plismona Proffesiynol (wedi'u trwyddedu gan y Coleg Plismona)

Rhaid bodloni'r gofynion cymhwysedd lleol a chenedlaethol o hyd ac nid yw ennill y radd yn gwarantu y bydd eich cais yn llwyddiannus.

Ar ôl i chi ymuno â Heddlu De Cymru, byddwch yn dechrau ar gyfnod prawf dwy flynedd ac, yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn ymgymryd â dysgu sy'n seiliedig ar ymarfer ac asesiadau pellach er mwyn dangos eich bod yn gymwys ar gyfer y rôl. Drwy gydol y cyfnod hwn, bydd ymgeiswyr yn cael y lefel uchaf o hyfforddiant a chymorth.

Cyflwynwyd y PEQF (Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona) ddwy flynedd yn ôl fel fframwaith proffesiynol newydd i hyfforddi swyddogion a staff yr heddlu. Mae'r fframwaith yn seiliedig ar gwricwlwm modern newydd sy'n cyd-fynd â'r lefelau addysg a bennwyd yng Nghymru a Lloegr sy'n cefnogi'r broses o ddatblygu plismona fel proffesiwn. Mae'r fframwaith proffesiynol yn cwmpasu llwybrau arbenigol i blismona, ac rydym yn cynnig cyfle cyffrous i gymryd rhan yn ein Rhaglen Mynediad i Raddedigion.

Mae Heddlu De Cymru yn croesawu'n benodol ymgeiswyr o grwpiau wedi'u tangynrychioli. 

Ymunwch â ni er mwyn ein helpu i fod y gorau am ddeall anghenion ein cymunedau ac ymateb iddynt.

Ydych chi'n credu eich bod yn addas ar gyfer y rôl? Dyma'r wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnoch:


Bydd y broses yn agor rhwng 9am ar 26 Hydref a 12pm ar 9 Tachwedd 2021.

Bydd Heddlu De Cymru'n lleihau cyfnod yr hysbyseb ar adegau os bydd yn derbyn digon o geisiadau.

Dilynwch y cyfarwyddiadau i gwblhau a chyflwyno'r cais ar-lein cyn y dyddiad cau. Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried.


Os ydych wedi gwneud cais i ddod yn swyddog yr heddlu i Heddlu De Cymru neu unrhyw heddlu arall yn y tri mis diwethaf, ac nad oeddech yn llwyddiannus ar unrhyw gam o'r broses recriwtio, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar yr achlysur hwn.

Nodwch y canlynol os ydych yn cyflwyno ceisiadau i fwy nag un ymgyrch recriwtio i fod yn Swyddog yr Heddlu ar yr un pryd: gofynnir i chi ddewis y cais yr hoffech barhau ag ef. Bydd hyn yn cynnwys pob llwybr mynediad arall fel Swyddog yr Heddlu i Heddlu De Cymru yn ogystal â heddluoedd eraill.

Nid oes modd i ymgeiswyr wneud cais i fwy nag un heddlu yng Nghymru fel rhan o'r ymgyrch hon. Caiff ceisiadau dwbl eu gwrthod. Ar ôl i chi drefnu amser ar gyfer asesiad, ni fydd modd i chi ei drosglwyddo i heddlu arall.

Bydd angen i unrhyw gais i drosglwyddo pàs canolfan asesu dilys sydd eisoes gennych gael ei gadarnhau gan yr heddlu sy'n ei dderbyn drwy ddarparu copi o'r adroddiad adborth a gawsoch gan y ganolfan asesu. Rydym yn argymell eich bod yn lanlwytho'r dystiolaeth hon gyda'ch cais. Cofiwch na allwch ofyn am gael gwneud hyn ar ôl dyddiad cau y swydd wag. 


  • Dylai ymgeiswyr sy'n ymholi am addasiadau rhesymol wneud hynny drwy gysylltu â thîm Recriwtio'r adran AD (gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod).

  • Caiff y Ganolfan Asesu ei chynnal yn gynnar ym mis Rhagfyr 2021. Ar ôl i'r dyddiadau gael eu cadarnhau, dyma'r unig ddyddiadau fydd ar gael ar gyfer yr ymgyrch recriwtio hon.

Mae'r Ganolfan Asesu'n rhan o'r safonau recriwtio cenedlaethol a osodir gan y Coleg Plismona. Mae manylion am broses gyfredol y Ganolfan Asesu yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol ar gael drwy'r ddolen ganlynol:
https://recruit.college.police.uk/Officer/after-I-apply/Pages/Constables-Assessment-Centre.aspx

Ewch i wefan Heddlu De Cymru i gael manylion llawn am yr hyn y mae'r rôl yn ei chynnwys, y meini prawf cymhwysedd, y broses gwneud cais ac atebion i'r cwestiynau cyffredin:
Rôl Heddwas | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)


Os na allwch ddod o hyd i'r atebion roeddech yn chwilio amdanynt, gallwch hefyd anfon eich ymholiadau dros e-bost i'r tîm Recriwtio AD yn
HR-Recruitment@south-wales.police.uk neu ffonio 01656 869225.

Gallwch drafod ymholiadau o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9am a 5pm a rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.