Cynorthwyydd Personol i Ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu
04/02/22 12:00
TEITL SWYDD: Cynorthwyydd Personol i Ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu
GRADD: 6/SO1
CYFLOG: £26,865 - £31,725
LLEOLIAD: Pencadlys / Y Bontfaen / Gartref
AR AGOR O: 17.01.2022 – 04.02.2022
ORIAU: 37 awr
CYFNOD: Parhaol
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gan weithio fel cynorthwyydd uniongyrchol i Ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Bydd angen i ddeiliaid y swydd fod yn llawn cymhelliant ac yn drefnus a gallu gweithio gan ddefnyddio ei flaengaredd.
Mae'r rôl yn cynnwys cynorthwyo Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn uniongyrchol gyda phob agwedd ar ei bortffolio. Bydd hyn yn cynnwys rheoli dyddiaduron, rheoli e-byst a darparu cymorth gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd allweddol a gweithgarwch cydgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru. Mae'n hanfodol bod gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu ardderchog. Byddai gwybodaeth am dirwedd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon cysylltwch â Laura Armitt (laura.armitt@south-wales.police.uk)
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.