Uwch-swyddog Polisi (Cyfiawnder Troseddol)
17/02/23 12:00
TEITL SWYDD: Uwch-swyddog Polisi (Cyfiawnder Troseddol)
GRADD: PO3
LLEOLIAD: Gorsaf Heddlu Canol Caerdydd & Pen-y-bont (Teithio ledled ardal Heddlu De Cymru yn ôl y gofyn)
YN ATEBOL I: Arweinydd Strategol Cyfiawnder Troseddol
ORIAU: 37 awr yr wythnos – llawn amser
CYFNOD: Cyfnod penodol 18 mis neu Secondiad y mae eich cyflogwr presennol yn cytuno arno.
FETIO: Lefel MV/SC
AR AGOR I: 20/01/2023 – 17/02/2023 12PM
Mae Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 yn gosod cyfrifoldeb cyfatebol ar Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac asiantaethau Cyfiawnder Troseddol i gyd-weithio er mwyn darparu System Cyfiawnder Troseddol effeithiol i ardaloedd heddlu. Byddwch yn rhan o dîm bach ond dynamig Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac yn gweithio gyda Heddlu De Cymru a phartneriaid eraill i gyfrannu at y gwaith o gyflawni blaenoriaethau sy'n gostwng troseddu ac yn ennyn hyder y cyhoedd.
Mae hon yn rôl allweddol a bydd yn cefnogi tîm y Comisiynydd i gyflawni amcanion polisi cenedlaethol a lleol drwy gynnig a thynnu sylw at atebion strategol i faterion cyfiawnder troseddol lleol a risgiau ynghyd â chefnogi'r gwaith o roi strategaethau, polisïau a gwaith datblygu ar waith.
Un o gyfrifoldebau sylfaenol y rôl hon fydd arwain gwaith arloesi systemau a gwella gwaith darparu partneriaethau ac felly bydd angen unigolyn proffesiynol, rhagweithiol, dadansoddol a hunangymhellol i ymgymryd â’r rôl hon er mwyn cefnogi ac arwain ar elfennau o’r portffolio Cyfiawnder Troseddol. Bydd angen i'r unigolyn hwn allu datrys problemau yn greadigol gyda'r gallu i ddelio â heriau a goresgyn rhwystrau.
Fel uwch-aelod o'r portffolio Cyfiawnder Troseddol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain gwaith gyda rhanddeiliaid a phartneriaid a bydd yn rhaid iddo oruchwylio gweithgareddau lleol ledled ardal Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, gan gyflawni amcanion Cynllun Heddlu a Throseddu'r Comisiynydd ac adrodd ar y rhain. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu ar ein cydberthnasau presennol â phartneriaid ar draws pob sector a chynrychioli tîm y Comisiynydd mewn amrywiaeth o fforymau partneriaeth.
Bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i chi gwmpasu gwaith ehangach tîm y Comisiynydd ac o ganlyniad bydd yn ofynnol i chi weithio ar draws amrywiaeth eang o ardaloedd partneriaethau. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth o'r dirwedd partneriaethau ledled De Cymru, yn enwedig cyfiawnder troseddol a meddu ar wybodaeth am strwythurau llywodraethu plismona a Chyfiawnder Troseddol.
Yn ogystal, bydd ganddo brofiad o ddylanwadu a datblygu polisïau ynghyd â sgiliau arwain a rheoli pobl cadarn.
Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Ne Cymru ond mae trefniadau gweithio ystwyth ac o bell ar waith, a bydd angen teithio i Dde Cymru o bryd i'w gilydd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Sian Rees: sian.rees5@south-wales.pnn.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.