13/11/25 15:00
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian (ROCU). Mae'r Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol yn ffurfio rhan hanfodol o'r rhwydwaith plismona cenedlaethol, gan ddarparu amrywiaeth o alluoedd plismona arbenigol i heddluoedd sy'n eu helpu i ymchwilio i droseddau difrifol a chyfundrefnol, tarfu arnynt a'u disodli yn effeithiol.
Mae galluoedd Tarian yn cynnwys Rhaglen Mynd i'r Afael â Chamfanteisio Cyfundrefnol (TOEX), plismona cudd, gwyliadwriaeth arbenigol, ymchwilio i droseddau seibr ac ymchwilio i droseddau economaidd. Mae Tarian yn ymchwilio i grwpiau troseddu cyfundrefnol sy'n gweithredu ar draws ffiniau heddluoedd ac yn tarfu arnynt. Rydym hefyd yn gweithredu fel pwynt cysylltu pwysig rhwng heddluoedd a'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).
Rydym am recriwtio Dadansoddwr Cudd-wybodaeth Rhanbarthol i weithio yn yr Uned Droseddu Economaidd Rhanbarthol (RECU), fel rhan o alluoedd ehangach Ymchwil a Dadansoddi ROCU. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu dadansoddiadau effeithiol ac effeithlon i gefnogi gwaith strategol a sefydliadol wrth fynd i'r afael â thwyll, gwyngalchu arian, llygredd ac adfer asedau ar gyfer troseddau difrifol a chyfundrefnol ar draws rhanbarth De Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Uwch Ddadansoddwr Cudd-wybodaeth Helen Freeman yn helen.freeman@south-wales.police.uk
Fel rhan o'r rôl hon, efallai y bydd angen i chi fynychu cyfarfodydd a/neu hyfforddiant mewn lleoliadau ledled y DU yn ogystal â theithio o fewn Rhanbarth De Cymru.
Rydym yn cefnogi ac yn annog gweithio hyblyg ac ystwyth, ac yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â diddordeb mewn swydd llawn amser neu ran amser (yn ddelfrydol dros bum diwrnod yr wythnos er mwyn cynnal gwytnwch). Efallai y bydd hyblygrwydd i chi weithio gartref yn unol â gofynion y rôl a pholisïau gweithio cyfredol. O bryd i’w gilydd, efallai y bydd angen i chi weithio o safleoedd eraill yn Rhanbarth De Cymru.
Rhaid i'r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel MV/SC.
Noder, os ydych yn destun ymchwiliad gan yr Adran Safonau Proffesiynol ar hyn o bryd, gall eich penodiad neu'ch lleoliad yn y rôl gael ei oedi hyd nes y ceir canlyniad yr ymchwiliad hwnnw. Ystyrir p'un a gaiff y rôl ei chadw'n agored fesul achos.
Pan fydd hysbysebion am rolau tebyg o fewn Tarian yn ymddangos ar yr un pryd, bydd rhaid cyflwyno ceisiadau ar wahân ar gyfer pob rôl yr hoffech gael eich ystyried amdani.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.