~~OPPORTUNITY_TITLE_157474E8-7746-4251-B4CD-2AC6CFE13991~~

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Swyddfa Comisiynyd Heddlu a Throsedd
K Swyddfa'r Comisynydd Heddlu a Throsedd
Arall
Cymru Gyfan
PO6
£48,048 - £51,306
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
24
2

25/08/22 12:00

TEITL SWYDD: Rheolwr Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cyfiawnder Troseddol (Cymru Gyfan)

GRADD: PO6 (£48,048 - £51,306)             

LLEOLIAD:  I'w gytuno yn dibynnu ar yr ymgeisydd llwyddiannus gan fod y rôl yn cwmpasu Cymru Gyfan. Bydd rhaid teithio rhywfaint. Ystyrir trefniadau gweithio hyblyg ac ystwyth.

YN ATEBOL I: Uwch-swyddog Cyfrifol ym maes hil – Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru

ORIAU: 37 awr yr wythnos

CYFNOD:   Cyfnod penodol o ddwy flynedd neu secondiad

FETIO:  Lefel MV/SC    

Ar Agor I: 04.08.2022 - 25.08.2022 12PM                                             

Mae gan y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru gyfle cyffrous i helpu gyda'r gwaith a'r camau gweithredu parhaus i fynd i'r afael â chydraddoldeb hil, trin cydweithwyr a chymunedau â pharch ac urddas, a dileu ymddygiadau amhriodol ledled Cymru.

Rydym yn awyddus i benodi Rheolwr Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cyfiawnder Troseddol (Cymru Gyfan) a fydd yn gyfrifol am feithrin cysylltiadau da a phrofiadau cadarnhaol ar gyfer grwpiau lleiafrifol o ran hil sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol.  Rydym yn chwilio am rywun a fydd, o dan gyfarwyddyd Grŵp Strategol Cydraddoldeb Hiliol Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru (CJIW), yn chwarae rôl allweddol o ran cydlynu, rheoli a chyflawni Cynllun Gwrth-hiliol Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru. Mae'n hanfodol y bydd deiliad y swydd hefyd yn meithrin ac yn cynnal cydberthnasau ac yn gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth â Sefydliadau Cyfiawnder Troseddol, y Trydydd Sector, Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhywun a all ddeall hiliaeth systematig ac a fydd yn gallu helpu i gyflawni'r Cynllun Gwrth-Hiliaeth a'i reoli'n strategol.  Rhaid i'r ymgeisydd fod yn gyfforddus yn herio partneriaid er mwyn cefnogi newid a'i roi ar waith. Bydd angen iddo weithio gyda Chadeiryddion Grŵp Strategol Cydraddoldeb Hiliol Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru (a'i grwpiau gorchwyl) er mwyn sicrhau y gwireddir y weledigaeth i sicrhau bod pobl leiafrifol o ran hil, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn cael eu trin yr un fath ym mhob rhan o'r system cyfiawnder troseddol. 

Mae'r swydd yn cwmpasu Cymru gyfan ond mae trefniadau gweithio ystwyth ac o bell ar waith, ac efallai y bydd angen teithio y tu allan i Gymru o bryd i'w gilydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Emma Wools

Emma.Wools@south-wales.police.uk

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.