Summer Placement -ICT

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu
Technolegau Cyfathrebiadau Gwybodaeth
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
SC2
£23,154.00 (pro rata)
Llawn Amser
37
Dros Dro
2

22/03/24 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni 

Mae Heddlu De Cymru yn edrych ymlaen at lansio ein Rhaglen Lleoliad Haf 2024; rydym yn chwilio am bobl â sgiliau a phrofiadau amrywiol i ymuno â'n tîm llwyddiannus.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeiswyr sy'n chwilio am leoliad gwaith ymuno ag adran arbenigol a chael profiad gwaith a hyfforddiant.

Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas. Rydym yn chwilio am bobl sydd â sgiliau a phrofiadau amrywiol sy'n arloesol, yn frwdfrydig, yn uchelgeisiol ac, yn fwy na dim, yn unigolion talentog sy'n dyheu am fod yn arweinwyr y dyfodol ac yn awyddus i ymuno â'n tîm llwyddiannus.

Mae ein Rhaglen Lleoliad Haf yn cynnwys tâl ac yn rhedeg dros gyfnod o wyth wythnos gan ddechrau ym mis Gorffennaf 2024.

Mae gennym gyfle i weithio gyda ni dros gyfnod byr o amser i feithrin dealltwriaeth o'n busnes, ac rydym yn chwilio am rywun i #YmunoÂNi ac i weithio gyda'n Tîm TGCh.

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel. 

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona. 

Mae cael gwahaniaeth go iawn yn ein teulu heddlu yn dod â gwahanol safbwyntiau ac yn ein helpu i ddeall ein cymunedau yn well. Wrth wneud hynny, gallwn arloesi ac ymateb i anghenion ein cymdeithas sy’n newid yn barhaus.

Mae Heddlu De Cymru yn benodol yn croesawu ceisiadau gan grwpiau wedi'u tangynrychioli.

 Yr Adran y byddwch yn ymuno â hi:

  • Mae tua 150 o aelodau o staff yn gweithio yn Adran TGCh Heddlu De Cymru, ac maent yn gweithio mewn meysydd amrywiol, gan gynnwys:
    • Ein Desg Gwasanaeth TGCh, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer tua 6,000 o swyddogion a staff yr heddlu ac maent yn delio â'u materion TG ar eu dyfeisiau (gliniaduron a ffonau symudol) a systemau amrywiol yr heddlu.
    • Yna, mae gennym ein timau cymorth ail reng, gan gynnwys Diogelwch TGCh, y Tîm Dyfeisiau, y Tîm systemau a'r Timau Caffael TGCh a Phrosiect.
  • Mae ein swyddfa wedi'i lleoli ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Y rôl a'ch prif gyfrifoldebau:

  • Fel rhan o Dîm TGCh, byddwch yn darparu cymorth cyffredinol ym mhob rhan o'r adran cymorth TGCh.
  • Dylai ymgeiswyr fod yn fedrus wrth ddefnyddio systemau Microsoft

 

Pa sgiliau a phrofiad y mae angen i chi eu cynnig i'r rôl:

  • Rhaid meddu ar wybodaeth gyfredol am becynnau TG h.y., Microsoft Word, Excel, Outlook

 

Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau y bwriedir iddynt wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant.

Os byddwch yn llwyddiannus, bydd rhaid bod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel Recriwtio Fetio.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Jon Clewlow yn Jon.Clewlow@south-wales.police.uk.

Eich tro cyntaf yn gwneud cais am rôl gyda Heddlu De Cymru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar wneud cais er mwyn cael cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â'r ffurflen gais a'r hyn i'w ddisgwyl, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Noder, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at y lefel ofynnol.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Rhaglen Lleoliad yr Haf Heddlu De Cymru, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Feddu ar safon dda o addysg i radd TGAU A-C o leiaf, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg, neu'r gallu i ddangos sgiliau a galluoedd cyfatebol.
  • Bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn ddinesydd y Gymanwlad neu'n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig.
  • Peidio â bod wedi cwblhau rhaglen brentisiaeth, interniaeth neu raddedig gyda Heddlu De Cymru yn flaenorol.

Rydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV ar gyfer y swydd hon. Gofynnir i ymgeiswyr glicio ar y ddolen ‘Gwneud cais’ isod a gweithio drwy'r ffurflen ar-lein cyn lanlwytho eu CV a datganiad personol. Disgwylir i ymgeiswyr sicrhau bod eu CV a datganiad personol yn dangos sut maent yn bodloni'r meini prawf hanfodol o dan Cymwysterau, Sgiliau a Gwybodaeth yn y Proffil Rôl.

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

Lleoliad:                                               Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr

Dyddiad canlyniadau'r rhestr fer:       25 - 29 Mawrth

Dyddiad y cyfweliad:                           8 - 19 Ebrill

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.