Asiant/Clerc Datgeliadau

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol
Uned Ddadleniadau
Uned 31 Llanelwy
Graddfa 4
£21,135 - £23,406
Llawn Amser
37
Parhaol
3

01/02/21 12:00

Gallwch gael effaith wirioneddol fel Asiant Datgeliadau o fewn Heddlu Gogledd Cymru, lle byddwch yn darparu gwasanaeth hanfodol i amddiffyn pobl fregus. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm o arbenigwyr sy'n prosesu ac yn datgelu gwiriadau datgelu ar ran y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac asiantaethau allanol, i gefndir troseddol ymgeiswyr am rolau sy'n golygu bod gan yr ymgeisydd fynediad sylweddol at blant ac oedolion bregus.

 

Mae'r rôl Asiant Datgelu hon yn cynnig cyfle unigryw ar gyfer datblygu gyrfa wrth i chi dyfu yn y rôl, a lle byddwch yn sicrhau swydd barhaol o fewn sefydliad sy'n wirioneddol gefnogi eich datblygiad a'ch llwyddiant yn y gweithle. Byddwch yn cael eich cefnogi'n llawn i gyrraedd man o ddefnyddio eich barn eich hun pan ddaw'n fater o wneud penderfyniadau cymhleth a thros amser bydd yn eich galluogi i reoli eich llwyth gwaith eich hun yn hyderus.

 

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i weithio'n hyblyg o bell o gartref a rhywfaint o weithio mewn swyddfeydd.

 

Dyma rai o atebolrwyddau rôl yr Asiant Datgelu:

1. Prosesu ffurflenni cais sy'n dod i mewn, gan sicrhau eu bod wedi'u cwblhau'n drylwyr ac yn gywir, gan gysylltu â Heddluoedd eraill lle y bo'n briodol a dychwelyd ffurflenni anghyflawn ac anghywir.

2. Defnyddio Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) ochr yn ochr ag amrywiaeth o systemau eraill, i ganfod a oes gan y sawl dan sylw unrhyw euogfarnau wedi'u cofnodi neu wybodaeth nad yw'n gollfarn a gedwir gan Heddlu Gogledd Cymru. Wrth ddiweddaru pob system gyda gwybodaeth gyfredol ac ychwanegol o ffurflenni cais fel enwau ychwanegol a ddefnyddir a chyfeiriad cyfredol.

3. Gwirio manylion a gafwyd yn erbyn y sawl dan sylw, gwirio ansawdd ar gyfer unrhyw anghywirdebau a chael rhagor o wybodaeth pan fo angen.

4. Byddwch yn cadarnhau canlyniadau'r datgeliadau drwy ddefnyddio'r Fframwaith Sicrhau Ansawdd cenedlaethol i asesu perthnasedd, a chynhyrchu adroddiadau sy'n datgelu gwybodaeth am beidio â datgelu a dogfennu'r rhesymeg i gefnogi penderfyniadau.  

5. Coladu a dadansoddi gwybodaeth a chyflwyno ymholiadau i'r Goruchwyliwr lle mae angen ymchwilio ymhellach, neu i'r rhai sydd â gwybodaeth nad yw'n gollfarn lle mae angen canllawiau ynghylch y ffordd orau o fwrw ymlaen.

 

Y profiad y bydd angen i chi ei ystyried ar gyfer rôl yr Asiant Datgelu?

  • • Cymhwyster lefel 3 NVQ a/neu brofiad gweinyddol perthnasol.
  • • Profiad gwaith profedig o ran coladu, dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth.
  • • Gallu rhagorol gyda systemau TG, sy'n cynnwys gwybodaeth ymarferol am Microsoft Office.
  • • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith, ac ymateb yn gadarnhaol o dan bwysau.
  • • Sgiliau cyfathrebu profedig, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ynghyd â'r gallu i weithio'n dda mewn amgylchedd tîm ac ar eu pen eu hunain.
  • • Defnyddio proffesiynoldeb o ran cyfrinachedd a mynediad at wybodaeth sensitif; ac yn enwedig gan y byddwch yn gweithio gartref o bryd i'w gilydd.

 

Yn unol â'n polisi Sgiliau Iaith Gymraeg, rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog. Cyn eich penodi, bydd gofyn i chi ddangos cyrhaeddiad Lefel 2 mewn Cymraeg llafar. Mae hyn yn golygu y gallwch ddeall ac ynganu enwau lleoedd Cymraeg a'r gallu i ddeall a defnyddio ymadroddion syml bob dydd. Yn ystod eich cyfnod prawf byddwn yn eich cefnogi'n llwyr i gyrraedd sgiliau Lefel 3. Gall unrhyw un o fewn Heddlu Gogledd Cymru neu heddluoedd eraill drosglwyddo gyda'u lefel bresennol o Gymraeg a byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu'r sgiliau hyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â'n

Tudalen Adnoddau Iaith Gymraeg.

 

Edrychwch os ydych yn gymwys ar gyfer Gweithredu'n Bositif .

 

Dyddiad cau: 1 Chwefror, 2021


Cynhelir cyfweliadau ar 16 a 17 Chwefror 2021

Os ydych angen rhagor o wybodaeth am y rôl hon cysyllter â: SSFRecruitment@pnn.police.co.uk

 

1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.