Swyddog Gwirfoddol 2022

Heddlu Gogledd Cymru
Swyddogion Gwirfoddol
Gwasanaethau Plismona Lleol
Ledled yr Heddlu
16
Gwirfoddolwr
1

23/11/22 12:00

Cyfle i fod Swyddog Gwirfoddol gyda Heddlu Gogledd Cymru:   Os ydych yn mwynhau her, datrys problemau a hoffech gyfrannu tuag at ein hymdrechion i gadw eich cymuned yn ddiogel, gan ddatblygu ystod ehangach o sgiliau, yna beth am wirfoddoli gyda'r heddlu?

Mae hwn yn gyfle gwych i gwrdd â’n tîm a dysgu mwy am Heddlu Gogledd Cymru a’n manteision. Byddwch hefyd yn gweld sut un yw’r rôl a’r math o unigolyn rydym yn chwilio amdano. Bydd cyfle hefyd i chi ofyn unrhyw gwestiynau am y rôl, Heddlu Gogledd Cymru neu ein proses recriwtio.  

Pam dod yn Swyddog Gwirfoddol?

Daw ein teulu plismona o bob math o gefndiroedd. Bydd sgiliau gennych yr ydych wedi eu meithrin drwy brofiad a fydd o werth sylweddol i Heddlu Gogledd Cymru.

Mae ymuno â'r Swyddogion Gwirfoddol yn cynnig cyfleoedd heb eu hail. Fel Swyddog Gwirfoddol byddwch yn darganfod llawer am eich cymuned leol gan helpu i gael effaith bositif. Byddwch yn dod yn rhan o fentrau plismona lleol, gwneud ffrindiau newydd, gweithio fel tîm a datblygu'r sgiliau sydd gennych eisoes.

I fod yn Swyddog Gwirfoddol rhaid cael;

  • Uniondeb
  • Gonestrwydd
  • Pwyll
  • Arweinyddiaeth
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog

Beth yw'r ymroddiad o ran amser?

Yn gyffredinol, bydd disgwyl i chi wirfoddoli tua 200 awr y flwyddyn, sydd oddeutu 16 awr y mis. Bydd angen i chi fynychu cwrs hyfforddi cychwynnol yr heddlu ac wedi i chi gwblhau eich hyfforddiant byddwch yn cydweithio gyda swyddogion mwy profiadol i ddatblygu eich sgiliau gan ennill Statws Rhawd Annibynnol. Mae hyn yn golygu y byddwch wedi cymhwyso ym maes plismona sylfaenol a bod â'r un pwerau â swyddogion heddlu cyffredin.

Pa gyfleoedd sydd ar agor i mi?

Gallech fod yn rhan o ddigwyddiadau difrifol, cynnig cefnogaeth ychwanegol i swyddogion arferol fel ymateb i alwadau 999 neu 101, ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gorfodi mentrau diogelwch ar y ffyrdd a phlismona digwyddiadau mawr. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i arbenigo o fewn adrannau gwahanol fel Plismona'r Ffyrdd, Uned Troseddwyr Rhyw a Thrais a Chudd-wybodaeth yr Heddlu.

Ydych chi'n gymwys ar gyfer Gweithredu Positif?

Mae ein hymrwymiad i amrywiaeth yn sicrhau bod ein heddlu yn adlewyrchu'r amrywiaeth sy'n bresennol yn ein cymunedau. Mae ein gallu i wasanaethu'r cyhoedd yn dibynnu ar brofiadau, sgiliau a dulliau unigryw a ddaw o weithlu amrywiol.   Rydym felly wedi ymroi i gefnogi ceisiadau oddi wrth grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli yn eu hymgais i ddod yn Swyddogion Gwirfoddol. Ewch i weld os ydych yn gymwys am gymorth Gweithredu Positif. Mae hwn yn gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau ac edrych ar unrhyw ofidion sydd gennych yn ychwanegol i gael cefnogaeth.

Sgiliau Cymraeg

Cyn ymuno rydym yn mynd ati i annog a chynorthwyo ymgeiswyr i gyrraedd Lefel 1 Sgiliau Cymraeg . Golyga hyn eich bod yn gallu ynganu enwau lleoedd yn Gymraeg a dweud cyfarchion ac ymadroddion sylfaenol.

Sut dwi'n ymgeisio?

Cliciwch ar y botwm ymgeisio sy'n eich arwain at y dudalen swyddi. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd amser i ddarllen y tudalennau Swyddog Gwirfoddol/Swyddog Heddlu ar ein gwefan ble gallwch ganfod gwybodaeth am y broses recriwtio a phrofion.

Dyddiad cau: 17/10/22

Dyddiad Cyfweliad Rhithiol: Hydref/Tachwedd

Mae dwy amserlen hyfforddiant ynghlwm wrth i ni gynnal dwy garfan hyfforddiant i Swyddogion Gwirfoddol. Cyn ymgeisio, ystyriwch os byddwch yn gallu dod ar ddyddiadau’r hyfforddiant. 

1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.