PENNAETH ADNODDAU DYNOL
02/04/24 12:00
Pennaeth Adnoddau Dynol
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am arweinydd rhagorol sydd ag angerdd, egni a chymhelliant i ymuno â'r tîm fel ein Pennaeth Adnoddau Dynol. Byddwch yn ymuno ar gytundeb parhaol hefo ystod cyflog rhwng £51,252 – £54,660.
Byddwch yn gyfrifol am arwain a chyflawni elfen AD ein cynlluniau drwy Heddlu Gogledd Cymru. Byddwch angen bod yn rhagweithiol gyda syniadau datrys problemau arloesol ar lefel strategol. Rhaid i chi hefyd fod yn barod a brwd er mwyn cymell newid a chynorthwyo eich tîm drwyddi draw.
Os ydych yn ddynamig, hyblyg a hyderus o ran gwneud penderfyniadau, chwiliwch am fanylion llawn y rôl hon drwy ddarllen y pecyn gwybodaeth a geir hefo'r hysbyseb hwn am swydd wag. Mae'n cynnwys popeth o wybodaeth am Ogledd Cymru fel Heddlu ynghyd â'r proffil rôl.
Cymraeg
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 2, sy'n golygu eich bod yn gallu rhoi a gofyn am fanylion personol a gwybodaeth sylfaenol; i wneud ceisiadau syml a dweud ychydig o ymadroddion amdanoch chi'ch hun yn Gymraeg.
O fewn eich gwasanaeth 12 mis cyntaf bydd gofyn i chi gyrraedd sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 3.
Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n
Sut wyf yn ymgeisio?
Cyflwynwch eich cais drwy gyflwyno CV (dim mwy na 2 dudalen) a llythyr eglurhaol (dim mwy na 2 dudalen) yn yr adran datganiad personol. Dylai eich llythyr eglurhaol roi tystiolaeth o'ch addasrwydd, sgiliau a'ch profiad ar gyfer y swydd gan ddefnyddio'r proffil rôl a roddir o fewn y pecyn gwybodaeth.
Dyddiad cau: 2 Ebrill 2024, hanner dydd.
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i'r cam asesu a fydd yn cynnwys cyfweliad a chyflwyniad. Bydd y rhain yn digwydd yn ystod yr wythnos yn dechrau 22 Ebrill 2024.
Os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Laura Hankey ar laura.hankey@northwales.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.