Nyrs Dalfeydd

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Plismona Lleol
Llai
SO2
£32,673 - £34,578
Sifft, Gweithio Penwythnos
20% shift allowance
12.47% weekend working allowance
Llawn Amser
37
Parhaol
3

01/02/21 12:00

Nyrs Gyffredin gofrestredig brofiadol? Mae hwn yn gyfle i ymuno â'r tîm Nyrsio Dalfeydd amlddisgyblaethol yn Heddlu Gogledd Cymru sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau nyrsio effeithiol i'r dalfeydd yng ngorsafoedd heddlu Llanelwy, Llai a Chaernarfon. Felly mae trwydded yrru lawn yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

 

Byddwch yn rhan o dîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys Archwilwyr Meddygol Fforensig am gyngor dros y ffôn a Nyrsys Dalfeydd sy'n darparu gofal ansoddol o safon uchel i garcharorion, swyddogion heddlu a staff. Ar ben hyn, mae'r tîm yn cael ei gynorthwyo gan dîm cyswllt cyfiawnder troseddol, staff a meddygon iechyd meddwl y GIG sydd yn y ganolfan ymosodiadau rhywiol a gweithwyr cyffuriau ac alcohol a ddarperir gan y gwasanaeth Kaleidoscope.

 

Gwnawn eich cynorthwyo drwy gydol yr hyfforddiant arbenigol rydym yn ei ddarparu wrth baratoi ar gyfer y rôl o fewn y ddalfa.

 

Dyma rai o gyfrifoldebau Nyrs Gyffredin:

  • Ymgymryd ag asesiadau clinigol, cynnal cofnodion cynhwysfawr a chywir.
  • Asesu gofynion meddyginiaethol carcharorion.
  • Asesu addasrwydd carcharorion sydd i'w carcharu, cyfweld, cyhuddo, trosglwyddo a'u rhyddhau.
  • Creu cynlluniau gofal addas, asesiadau risg ac adroddiadau meddygol.
  • Cydweithredu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol wrth ddarparu gofal meddygol.
  • Cael samplau fforensig amhersonol gan garcharorion/swyddogion/staff fel sy'n briodol.
  • Darparu cymorth a chyngor proffesiynol ymarferol i'r Swyddog Dalfa/Arolygydd PACE a'u cyfarwyddo o ran problemau iechyd carcharorion unigol.
  • Hyrwyddo datblygu cynlluniau hyrwyddo iechyd, yn enwedig ym meysydd cam-drin cyffuriau ac iechyd meddwl.

 

Y profiad fyddwch yn ei ddod i rôl Nyrs Cyffredin:

  • Nyrs Cyffredin Cofrestredig wedi cofrestru ar hyn o bryd gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
  • Mae'n hanfodol eich bod â 4 mlynedd o brofiad cofrestredig yn y swydd o leiaf a lefel gallu sylfaenol yn cyfateb i Fand 5 Uwch y GIG (o fewn y Gwasanaeth Iechyd) gan weithio tuag at fand 6. Rhaid i chi arddangos sgiliau arwain tîm / rheoli.
  • Rhaid i chi fod yn hyddysg mewn Gwythïen-bigo ac â phrofiad ymarferol sylweddol ar ôl cofrestru, mewn uned mân anafiadau, adran achosion brys, carchar neu nyrsio dalfa neu ddisgyblaeth berthnasol arall. Mae hyn er mwyn eich galluogi i weithio'n ymreolus yn y rôl hon.
  • Profiad o arfer ymreolus a'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer arfer diogel ac effeithiol wrth weithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
  • Cydnabod a gweithio o fewn cyfyngiadau gallu'r ymarferydd.
  • Dylai ymgeiswyr fod wedi derbyn hyfforddiant mewn Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau a Chymorth Bywyd Uniongyrchol.

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon bydd rhaid i chi ddangos sgiliau Lefel 3 Cymraeg sy'n golygu eich bod yn gallu sgwrsio yn rhannol yn Gymraeg ac ysgrifennu cyfathrebiadau anffurfiol. Ceir rhagor o wybodaeth drwy ymweld â'n tudalen Adnoddau Cymraeg: https://www.north-wales.police.uk/recruitment-home/welsh-language-resources.

 

I ganfod os ydych yn gymwys ar gyfer Gweithredu Positif; https://www.north-wales.police.uk/recruitment-home/positive-action-team.

 

Pan ydych yn ymgeisio, sicrhewch eich bod yn darparu manylion am eich profiad blaenorol perthnasol am y rôl hon o fewn y Datganiad i Gefnogi'ch Cais.

 

Dyddiad cau: Chwefror 1af, 2021

 

Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru:
SSF.Recruitment@nthwales.pnn.police.uk

1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.