Mae hwn yn gyfle gwych er mwyn ymuno hefo Heddlu Gogledd Cymru fel glanhawr yn gweithio yng Bangor.
Gyda llygad da am fanylion, yn ymfalchïo yn eich gwaith wrth i chi gynnal glendid yr adeiladau drwy wahanol ddyletswyddau glanhau. Darperir hyfforddiant i fod yn fedrus mewn dulliau glanhau priodol, megis defnyddio offer glanhau ac arferion glanhau gorau, yn dilyn iechyd a diogelwch a'r defnydd o offer diogelwch personol a ddarperir.
Beth yw diben rôl Glanhawr?
Oherwydd natur y rôl, byddwch yn gwneud gweithgareddau corfforol yn rheolaidd a fyddai'n cynnwys:- cerdded, sefyll, dringo, plygu, penlinio, cropian, ymestyn, gafael, gwthio a thynnu gwrthrychau, codi a/neu symud hyd at 25pwys/ 12kg, plygu ailadroddus a chodi eitemau i fyny a symudiadau braich ailadroddus ac ati.
Mae iechyd a diogelwch o'r pwysigrwydd mwyaf, felly bydd eich dyletswyddau o ddydd i ddydd yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau ac arferion glanhau gorau iechyd a diogelwch h.y. manyleb lanhau, bwrdd glanhau cyfnodol, ymsefydlu glanhau ac arfer gorau ac asesiadau risg.
Beth fydd angen i mi ei ystyried ar gyfer y rôl Glanhawr hon?
Nid oes angen unrhyw brofiad na chymwysterau blaenorol, ond oherwydd gofynion teithio mae'n rhaid i chi feddu ar drwydded yrru lawn.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Lefel 1, sy'n golygu eich bod yn gallu ynganu enwau lleoedd Cymraeg ac enwau cyntaf personol, rhywfaint o eirfa sy'n gysylltiedig â'r heddlu a gallu deall a dweud cyfarchion sylfaenol ac ymadroddion sylfaenol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â'n
Tudalen Adnoddau Iaith Gymraeg.
Beth yw ein manteision
Yma yn Heddlu Gogledd Cymru, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr. Rydym yn rhoi digon o gymorth a hyfforddiant er mwyn sicrhau eich bod yn rhagori yn y swydd, yn ogystal â derbyn manteision fel:
- Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i'ch cynorthwyo chi pan rydych yn ymuno
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ac 8 gŵyl y banc
- Mynediad i gampfeydd ar y safleoedd a dosbarthiadau ffitrwydd
- Cyfle i fod yn aelod o UNSAIN, undeb y gwasanaethau cyhoeddus
- Gostyngiadau gan amryw o siopau drwy'r Cynllun Golau Glas
- Cynllun Seiclo i'r Gwaith
- Gweithio'n hybrid/hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cymorth gan ein Canolfan Iechyd a Lles gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela, Ffisiotherapi a Chyfeillion Cefnogol Iechyd Meddwl.
- Cynllun pensiwn
- Cyfleoedd i weithio'n hyblyg
- Hawliadau absenoldeb mamolaeth/tadolaeth a mabwysiadu hael
- Tâl salwch
Cymreag
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 1, sy'n golygu eich bod yn gallu ynganu enwau lleoedd Cymraeg ac enwau cyntaf, rhywfaint o eirfa sy'n gysylltiedig â'r heddlu ac yn gallu deall a dweud cyfarchion sylfaenol ac ymadroddion sylfaenol. Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n Tudalen Adnoddau Cymraeg.
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd. Rydym yn anelu recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl gyda chyflyrau iechyd, am eu sgiliau a'u doniau. Gallwch fynegi ar eich ffurflen gais os ydych angen unrhyw gymorth neu addasiadau er mwyn gallu gwneud y swydd, neu er mwyn eich cynorthwyo chi gyda'ch cais.
Os ydych yn ymuno a ni gydag anabledd neu gyflwr meddygol, rydym yn anelu eich cynorthwyo chi fel y gallwch gyflawni eich rôl yn effeithiol. Os yw'n bosibl, gallwn drefnu addasiadau rhesymol fel y gallwch wneud hyn.
Gweithredu’n Bositif - ydych chi'n gymwys?
Rydym yn cydnabod bod anghenion pawb yn unigryw ac yn wahanol. Mae ein Tîm Cynrychiolaeth y Gweithlu yn cynnig amrywiaeth o fentrau gan gynnwys darparu cyngor, anogaeth a chymorth priodol drwy gydol y broses recriwtio. Os ydych yn dod o gefndir Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), lleiafrif crefyddol, yn fenyw, gwryw, LHDT+, neu os oes gennych anabledd – efallai y bydd Tîm Cynrychiolaeth y Gweithlu yn gallu cynnig cymorth Gweithredu’n Bositif i chi yn dibynnu ar y rôl rydych yn gwneud cais amdani. Ewch i'n tudalen Gweithredu’n Bositif i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio a'n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Sut ydych yn ymgeisio
Bydd y proffil swydd yn dweud y cyfan rydych angen ei wybod am y swydd a pha sgiliau fyddwch eu hangen i ymgeisio.
Mae llunio rhestr fer yn seiliedig ar eich datganiad i gefnogi eich cais. Sicrhewch eich bod yn dangos sut mae eich profiad, eich cymwysterau, eich sgiliau a'ch gallu yn bodloni'r meini prawf sylfaenol/arbennig a/neu ofynion hanfodol ar gyfer y rôl, gan roi tystiolaeth lle mae'n bosibl gydag enghreifftiau penodol.
Dyddiad cau: 12:00 21/11/2024
Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru:
SSF.Recruitment@northwales.police.uk neu 01492 804699.