Caplan Aml-ffydd Gwirfoddol yr Heddlu

Heddlu Gogledd Cymru
Gwirfoddolwyr
Gwirfoddolwyr
Dinasyddion mewn Plismona
Ledled yr Heddlu
Arall
Suggested hours of 2 minimum
Gwirfoddolwr
1

03/11/23 23:55

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn bwriadu recriwtio Caplaniaid Gwirfoddol yr Heddlu i gynnig cymorth ychwanegol i swyddogion yr heddlu, staff a'u teuluoedd ar draws ardal yr heddlu.

Mae Prif Swyddogion a Tîm Cynrychiolaeth y Gweithlu, ochr yn ochr â'r Tîm Dinasyddion mewn Plismona, wedi bod yn canolbwyntio ar recriwtio caplaniaid gwirfoddol aml-ffydd ychwanegol, i helpu i ddarparu gofal bugeiliol ac ysbrydol i wasanaeth yr heddlu mewn cyfnod cynyddol heriol.

Mae'r gwasanaeth caplaniaeth yno i ddarparu ‘clust i wrando’ a chymorth i staff a swyddogion mewn digwyddiadau difrifol ynghyd ag ymweliadau rheolaidd o ddydd i ddydd. Gyda swyddogion a staff yn aml yn gorfod ymdrin â digwyddiadau dirdynnol a'r pwysau o wneud penderfyniadau sy'n cael effaith fawr ar fywydau pobl, mae'r gaplaniaeth yn rhan hanfodol o'r teulu plismona.

Croesawir ceisiadau gan unigolion ordeiniedig a lleyg o unrhyw rywedd, ffydd, neu ethnigrwydd yn unol â'n perwyl i wir adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethwn.

Prif rôl caplan aml ffydd fydd darparu gofal bugeiliol ac ysbrydol i holl weithwyr Heddlu Gogledd Cymru a'u teuluoedd. Byddant hefyd yn sefydlu cysylltiadau proffesiynol a bydd yn creu cysylltiadau o fewn yr amgylchfyd plismona gweithredol.

Dylai caplan aml ffydd fod yn wrandäwr da sydd hefyd yn gallu cychwyn sgyrsiau anodd. Dylent fod yn dosturiol ac anfeirniadol. Efallai bydd gofyn iddyn nhw ymdrin â sefyllfaoedd sensitif a dylent allu cadw lefelau priodol o gyfrinachedd yn ychwanegol at eu dyletswydd gofal.

Byddwch angen gwybodaeth dda o'ch ffydd eich hun ynghyd â gallu ymwneud â'r rhai hynny o ffydd wahanol neu o ddim ffydd o gwbl. Mae hyn er mwyn gallu darparu gwasanaeth bugeiliol aml ffydd i'n swyddogion a staff amrywiol.

1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.