Gwasanaethau Cymorth Gweithredol
12/03/21 12:00
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â’r Ganolfan Gyfathrebu o fewn Heddlu Gogledd Cymru fel Dadansoddwr Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol, felly os oes gennych sgiliau rhyngweithiol ardderchog a'r gallu i ryngweithio yn hyderus a gallu dangos empathi ar bob lefel cyfathrebu, darllenwch ymlaen i ganfod y manylion...
Beth yw swyddogaeth Dadansoddwr Gwasanaethau Cefnogaeth Gweithredol?
Yn y rôl hon byddwch yn adrodd i Reolwr y Ganolfan Alwadau, yn cynhyrchu dadansoddiadau i roi gwybodaeth wrth wneud penderfyniadau ar droseddau cudd-wybodaeth a digwyddiadau ar draws yr heddlu. Mae'r gallu i weithio o dan bwysau yn allweddol wrth i chi gefnogi gyda dadansoddiadau, y broses orchwylio a chydlynu ar bob lefel er mwyn gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer gosod adnoddau'r Heddlu. Bydd dyletswyddau yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i;
- Gynhyrchu a chyfrannu at greu cynnyrch dadansoddi tactegol a strategol.
- Defnyddio ystod eang o dechnegau dadansoddol yn cynnwys dadansoddiadau datrys problemau.
- Nodi ac asesu natur ac ystod cudd-wybodaeth, troseddau a digwyddiadau o fewn Gogledd Cymru.
- Cyflwyno canlyniadau dadansoddiad ar lafar ac yn ysgrifenedig i gynulleidfa eang yn cynnwys y cyhoedd, swyddogion uwch ac aelodau uwch o Awdurdodau Lleol a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Beth fydd rhaid i mi ei ystyried ar gyfer rôl Dadansoddwr Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol ?
Yn y rôl hon bydd angen i chi fod yn gallu cyfuno gofynion sydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd gan ddefnyddio eich sgiliau cyfathrebu er mwyn gweithio yn effeithiol, gyda'r gallu i drafod a dylanwadu ar lefelau amrywiol o fewn y sefydliad. Bydd hefyd angen:
- Gradd yn dangos profiad o ymchwilio ansoddol a meintiol neu lefel wedi ei brofi o brofiad perthnasol.
- Sgiliau dadansoddi wedi eu profi wedi eu caffael o fewn amgylchedd cudd-wybodaeth.
- Sgiliau trefnu gwych, ynghyd â'r gallu i flaenoriaethu a bodloni terfynau amser o dan bwysau.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar, sy'n gymesur â graddfa a gofynion y swydd.
- Gallu i weithio fel aelod effeithiol mewn tîm.
- Sgiliau TG uwch yn enwedig MS Excel a'r gallu i ddefnyddio meddalwedd arbenigol ar gyfer dadansoddi cudd-wybodaeth.
Er nad yn hanfodol ar gyfer y rôl, dylai'r canlynol fod o fantais;
- Wedi eich hyfforddi i ddefnyddio meddalwedd I2 Analysis a meddalwedd mapio troseddau.
- Profiad o ddadansoddi cudd-wybodaeth
Yn unol â'n polisi Sgiliau Cymraeg, rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog.
Cyn eich penodi, bydd gofyn i chi ddangos cyrhaeddiad Lefel 2 mewn Cymraeg llafar.
Mae hyn yn golygu y gallwch ddeall ac ynganu enwau lleoedd Cymraeg a'r gallu i ddeall a defnyddio ymadroddion syml bob dydd.
Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n Tudalen Adnoddau Cymraeg.
Ewch i weld os ydych yn gymwys am gymorth Gweithredu Positif.
Dyddiad cau: 12/03/2021
Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru:
SSF.Recruitment@nthwales.pnn.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.