Ymchwilydd Cudd-wybodaeth Rhan amser
30/09/19 12:00
Ymchwilydd Cudd-wybodaeth
Gwasanaethau Heddlu Heol Ddwyreiniol (LPS)
LLAY
Graddfa Gyflog 5 £22,668 - £24,759 pro rata
Oriau – 18.5 yr wythnos
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd:
- Darparu cefnogaeth ymchwilio i Ddadansoddwyr Cudd-wybodaeth a Swyddogion Cudd-wybodaeth Lleol, ynghyd â darparu hydwythdedd yn y meysydd gwaith hyn.
- Gweithredu fel arbenigwr o ran gwaith ymchwil i gudd-wybodaeth a datblygiad cudd-wybodaeth o fewn y rhanbarth.
- Cyflwyno darganfyddiadau’r gwaith ymchwil i amrywiaeth o gynulleidfaoedd
Mae sgiliau Cymraeg Lefel 3 yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Cyfeiriwch at Bolisi Sgiliau Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru am fanylion ynghylch y meini prawf perthnasol a’r ymrwymiadau dysgu yn ystod y cyfnod prawf.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog. Felly, bydd disgwyl i chi ddangos agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith Gymraeg. Yn unol â pholisi sgiliau iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru cyn cael cynnig swydd bydd gofyn i chi gyflawni lefel 2 mewn Cymraeg llafar os nad ydych eisoes yn siarad Cymraeg. Yn y bôn golyga hyn y gallwch ddeall ac ynganu enwau lleoedd ac enwau pobl yn Gymraeg yn ogystal â gallu deall a defnyddio ymadroddion Cymraeg llafar syml, bob dydd. Mae’r holl ddeunydd cymorth sydd ei angen i fodloni'r gofyniad hwn ar gael ar wefan yr Heddlu.
Nodwch os gwelwch yn dda y bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i aros yn y swydd hon am 12 mis.
Dyddiad cau: Medi 30ain
Fe gynhelir y cyfweliadau ar 22/23 & 24 Hydref
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.