Cynllunydd Adnoddau’r Heddlu

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol
Uned Rheoli Adnoddau
Pencadlys Rhanbarthol Llanelwy
Graddfa 6
£25,566 - £27,339
Gweithio Penwythnos
8.5%
37
Parhaol
3

25/09/19 12:00

Cynllunydd Adnoddau’r Heddlu x 2

Uned Cynllunio Adnoddau

Llanelwy

 

Graddfa Gyflog 6 (£25,566 - £27,339)

 

8.5% Lwfans Gweithio Penwythnosau yn Daladwy

Oriau - 37 yr wythnos

 

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd:

Cynorthwyo Rheolwr yr Uned Adnoddau â'r gwaith o gynllunio adnoddau gweithredol ar gyfer yr Heddlu yn y dyfodol.

 Cynhyrchu a chynnal rhestri dyletswyddau ar gyfer staff Heddlu:

  1. Darparu adnoddau digonol er mwyn gallu cyflawni’r blaenoriaethau ar gyfer plismona effeithlon ac effeithiol.
  2. Sicrhau cydymffurfiaeth â’r Gyfarwyddeb Amser Gwaith ac adnabod materion perthnasol.
  3. Sicrhau cydymffurfiaeth â gweithdrefnau a chyfarwyddebau'r Heddlu, Rheoliadau'r Heddlu a Chytundebau Lleol Staff yr  Heddlu.
  4. Darparu gwasanaeth cynghori ymroddedig i’r holl staff ar y System Rheoli Dyletswydd, y defnydd ohoni a’i hanghenion.

Mae sgiliau Cymraeg Lefel 3 yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Cyfeiriwch at Bolisi Sgiliau Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru am fanylion ynghylch y meini prawf perthnasol a’r ymrwymiadau dysgu yn ystod y cyfnod prawf.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog. Felly, bydd disgwyl i chi ddangos agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith Gymraeg. Yn unol â pholisi sgiliau iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru cyn cael cynnig swydd bydd gofyn i chi gyflawni lefel 2 mewn Cymraeg llafar os nad ydych eisoes yn siarad Cymraeg. Yn y bôn golyga hyn y gallwch ddeall ac ynganu enwau lleoedd ac enwau pobl yn Gymraeg yn ogystal â gallu deall a defnyddio ymadroddion Cymraeg llafar syml, bob dydd. Mae’r holl ddeunydd cymorth sydd ei angen i fodloni'r gofyniad hwn ar gael ar wefan yr Heddlu. Bydd hefyd yn ofynnol i chi ddangos sgiliau llafar lefel 3 yn ystod eich cyfnod prawf a chewch eich cefnogi’n llawn ar gyfer hyn.

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i aros yn y swydd hon am 12 mis.

 Dyddiad cau: 25.09.2019

Dychweler i: SSF.Recruitment@nthwales.pnn.police.uk

 Y broses ddethol: Cyfweliad a phrawf Excel

Nid yw’r rhai hynny sydd wedi ymgeisio am y swydd hon o fewn y 6 mis diwethaf ac sydd wedi bod yn aflwyddiannus yn gymwys i ymgeisio.


1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.