SWYDDOG CYFATHREBIADAU AC YMGYSYLLTIAD DIGIDOL

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Pencadlys yr Heddlu Bae Colwyn
SO2
£31,095
Llawn Amser
37
Parhaol
5

07/10/19 12:00


SWYDDOG CYFATHREBIADAU AC YMGYSYLLTIAD DIGIDOL

CYFATHREBU CORFFORAETHOL

BAE COLWYN

Graddfa Gyflog SO2 (£31,095 yf)

 

Oriau - 37 yr wythnos

 

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd:

Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu ddwyieithog o safon uchaf ar gyfer SCHTh gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu digidol a thraddodiadol.

Arwain at ledaenu a chasglu ymgynghoriadau cyhoeddus gan ddefnyddio dulliau digidol a thraddodiadol er mwyn sicrhau tynnu sylw llawer o bobl sy’n cynnwys grwpiau anodd i’w cyrraedd.

Rheoli a chynnal holl gydrannau’r wefan ar gyfer SCHTh – y dylunio, cyflunio, diweddariadau, archifo, creu fforymau newydd ynghyd â chyfathrebiadau eraill yn fewnol ac allanol yn ôl y gofyn.

 

Mae sgiliau Cymraeg Lefel 5 yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Cyfeiriwch at Bolisi Sgiliau Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru am fanylion ynghylch y meini prawf perthnasol a’r ymrwymiadau dysgu yn ystod y cyfnod prawf.

 

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i aros yn y swydd hon am 12 mis. 

 

Dyddiad cau: 07/10/2019

Fe gynhelir y cyfweliadau ar: 07/11/2019 & 08/11/2019

 

Mae hon yn swydd llawn amser ond gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb mewn rhannu swydd.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: SSF Recruitment

1
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.