Cofrestrwch yma i fynegi eich diddordeb mewn Ymgyrchoedd Swyddog Gwirfoddol yn y dyfodol.

Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol

Heddlu Gogledd Cymru
Swyddi Swyddogion Gwirfoddol yn y Dyfodol
Gwasanaethau Plismona Lleol
Ledled yr Heddlu

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i gofrestru diddordeb mewn dod yn Swyddog Gwirfoddol .

Yn dilyn eich cofrestriad, byddwn yn eich gwahodd chi i ymgeisio cyn gynted ag y mae cyfle'n codi. 

Beth ydy Swyddog Gwirfoddol?

Maent yn bobl o bob cefndir sy'n dewis treulio eu hamser sbâr yn ein cynorthwyo ni i gynorthwyo pobl eraill. Ein cynorthwyo ni i wella'r cymunedau lle rydym yn byw ac yn gweithio. Ein cynorthwyo i gyflawni ein gweledigaeth o wneud Gogledd Cymru mwy diogel.

Efallai eu bod gartref yn magu teulu, mewn gwaith llawn amser, rhwng swyddi, yn astudio neu wedi ymddeol. Ond maent i gyd yn rhoi eu hamser sbâr gwerthfawr am ddim er budd y gymuned leol.

Darllenwch fwy drwy'r ddolen ganlynol: Swyddog gwirfoddol | Heddlu Gogledd Cymru

Rydym yn cydnabod bod anghenion pawb yn unigryw ac yn wahanol. Mae ein Tîm Cynrychioli'r Gweithlu yn cynnig amrywiaeth o fentrau gan gynnwys darparu cyngor, anogaeth a chefnogaeth briodol drwy gydol y broses recriwtio. Os ydych yn dod o gefndir Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), grwp crefydd lleiafrifol, yn Fenywaidd, yn LHDT+, ag anabledd neu gyflwr niwroamrywiol (e.e. dyslecsia), gall Tîm Cynrychioli'r Gweithlu allu cynnig cymorth Gweithredu Positif i chi yn dibynnu ar y rôl rydych yn gwneud cais amdani. Ewch ar ein tudalen Gweithredu Positif i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio ac ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

DALIER SYLW: NID YW HON YN YMGYRCH RECRIWTIO WEITHREDOL – MAE AR GYFER COFRESTRU EICH DIDDORDEB YN YR YMGYRCHOEDD RECRIWTIO SWYDDOGION GWIRFODDOL SYDD AR Y GORWEL

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.