Cynorthwyydd Gwasanaeth Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu
04/06/20 12:00
Cynorthwydd Gwasanaeth Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu
Gwasanaethau Troseddau
Llanelwy
Graddfa Gyflog 4 (£20,619 – £22,833)
Lwfans Shifft: 12.5%
Oriau - 37 yr wythnos
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd:
Diweddaru a lledaenu gwybodaeth a ddaliwyd ar holl geisiadau Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu gan gynnwys Cofnodion Troseddol ar y Cymhwysiad Phoenix. Derbyn ac ymdrin â holl ymholiadau ffôn o ran gwiriadau Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu gan swyddogion ac asiantaethau sydd ddim yn gysylltiedig â’r heddlu.
Rheoli a gweinyddu’r gronfa ddata gwarantau ynghyd â gorchwylion perthnasol sydd ynghlwm â sicrhau gweithredu gwarantau’n effeithlon a chyflym yn unol â Pholisi’r Heddlu. Cynnal chwiliadau ar systemau amrywiol yn ôl y gofyn.
Mae sgiliau Cymraeg Lefel 3 yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Cyfeiriwch at Bolisi Sgiliau Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru am fanylion ynghylch y meini prawf perthnasol a’r ymrwymiadau dysgu yn ystod y cyfnod prawf.
Nodwch os gwelwch yn dda y bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i aros yn y swydd hon am 12 mis.
Gweithredu Positif – a ydych yn gymwys?
Os ydych o grŵp Du, Asiaidd neu Ethnig Lleiafrifol (BAME), LHDT+, neu ag anabledd – gallwn gynnig cymorth Gweithredu Positif i chi. Ewch ar ein tudalen Gweithredu Positif i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio ac ein hymroddiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyddiad cau: 04/06/2020
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gan eich Rheolwyr ddigon o amser i lenwi’r adran berthnasol o’r ffurflen, a’i bod yn cyrraedd y Ganolfan Gwasanaethau cyn y dyddiad cau. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir heb yr wybodaeth hon yn cael eu prosesu.
Mae hon yn swydd llawn amser ond gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb mewn rhannu swydd. Ni chaniateir i Staff HGC sydd o fewn eu cyfnod prawf neu sydd wedi ymrwymo i aros yn eu swydd gyfredol am gyfnod penodol sydd heb ddod i ben eto ymgeisio am y swydd.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.