OSS Ymchwilydd Cudd-wybodaeth
11/04/24 12:00
Swyddog Cudd-wybodaeth,
Mae hwn yn gyfle gyrfaol anhygoel i wneud argraff go iawn o fewn Heddlu Gogledd Cymru. lle byddwch Mewnbynnu, asesu, gwerthuso a lledaenu cudd-wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau mewnol ac allanol yn unol â'r Model Cudd-wybodaeth Cenedlaethol gan gymryd camau lle bo'n briodol i atal, tarfu a darganfod trosedd.
Cyflog £27,789 to 29,874 (pro rata)
Dros dro am 9 - 12 mis
0.5 FTE (18.5 Awr - rhan amser)
Mae hon yn rôl unigryw sy'n cynnig cyfleoedd cynnydd gyrfa gwych wrth i chi ddatblygu yn y rôl. Felly sicrhewch beidio colli allan a pharhewch i ddarllen i ddarganfod y manylion llawn...
Dyma rai o gyfrifoldebau rôl Swyddog Cudd-wybodaeth:
- Mewnbynnu, gwerthuso a lledaenu cudd-wybodaeth o unrhyw ffynhonnell, gan gynnwys deunydd hunan gynhyrchu neu gudd-wybodaeth, ar system gudd-wybodaeth yr Heddlu mewn modd amserol er mwyn llywio'r ymwybyddiaeth cudd-wybodaeth gan alluogi'r Heddlu i ymateb i fygythiad, risg a niwed o unrhyw fath a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ddatblygu Ffynonellau Cudd-wybodaeth Ddynol (CHIS), gan wneud atgyfeiriadau i'r Biwro Awdurdodau Cudd lle bo hynny'n briodol
- Ymchwil cudd-wybodaeth a gwybodaeth o amrywiol ffynonellau i ddarparu asesiad cudd-wybodaeth gywir a chynnyrch cudd-wybodaeth ddeallus, a fydd yn rhoi cyfeiriad i OSS. Gall gofynion ymchwil fod yn ddeinamig felly mae'n rhaid i ddeiliad y swydd fod yn arloesol, ac yn barod i ymateb i flaenoriaethau sy'n newid yn barhaus.
- Nodi mannau o weithgaredd, tueddiadau, cyfresi troseddau, dioddefwyr neu droseddwyr hysbys sy'n gysylltiedig â mathau gwahanol o droseddu yn unol â Bygythiad, Niwed a Risg, drwy sganio, ymchwilio a gwerthuso'r holl ffynonellau agored a chaeedig sydd ar gael. Lledaenu canlyniadau'r ymchwil a phan fo angen, cynhyrchu papurau briffio a gwybodaeth benodol wedi'u targedu i hysbysu swyddogion gweithredol a rheoli materion sy'n codi/ar y gweill.
- Nodi bylchau mewn cudd-wybodaeth, cymryd cyfrifoldeb i ddatrys a datblygu unrhyw fater yn rhagweithiol neu sicrhau bod y mater yn cael ei gofnodi (gan ddefnyddio IEL a dulliau adrodd eraill) a bod y person priodol wedi cael gwybod er mwyn cyfeirio adnoddau'r Heddlu ar gyfer gweithgareddau casglu cudd-wybodaeth.
- Datblygu a chynhyrchu briffiau, poblogi system friffio'r OSS er mwyn rhoi gwybodaeth a chyfeiriad clir a phenodol i swyddogion a staff yr Heddlu.
- Cefnogi casglu cudd-wybodaeth, dadansoddi, datblygu a lledaenu swyddogaethau, os ceir ' Trosedd ar Ddigwydd', digwyddiad difrifol neu i gefnogi'r broses o atal y gwasanaeth ac fel y cyfarwyddir gan Oruchwyliaeth.
- Drwy chwilio'n drylwyr am yr holl ffynonellau sydd ar gael a gwneud defnydd llawn o system gudd-wybodaeth yr Heddlu, blaenoriaethu materion a thueddiadau perthnasol sy'n dod i'r amlwg, gwneud argymhellion wedi'u hategu gan resymeg glir er mwyn darparu cynhyrchion cudd-wybodaeth briodol i gwsmeriaid/asiantaethau mewnol ac allanol.
- Ymgymryd â'r holl gyfrifoldebau sy'n ymwneud â rheoli gwybodaeth, ansawdd data, rhannu gwybodaeth, a diogelu cudd-wybodaeth er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Arfer Proffesiynol Awdurdodedig (APP) ar reoli gwybodaeth, a gyhoeddir gan y Coleg Plismona gan gynnwys cod ymarfer y Swyddfa Gartref ar MoPI
- Bod yn atebol am yr holl faterion Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys asesiad risg, sy'n ymwneud â maes cyfrifoldeb deiliad y swydd er mwyn cyflawni rhwymedigaethau statudol Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974.
- Cyswllt dyddiol â swyddogion Heddlu a staff o bob rheng a graddau, er mwyn cyfnewid cudd-wybodaeth/gwybodaeth a briffio personél yn ôl y gofyn, gyda'r disgwyliad i hyrwyddo FIB ac annog y broses o gyflwyno cudd-wybodaeth.
- Cysylltiad rheolaidd gyda RIU Heddluoedd eraill, ATC, asiantaethau/sefydliadau allanol ac yn y blaen
Beth fyddaf ei angen i gael fy ystyried ar gyfer y rôl hon fel Swyddog Cudd-wybodaeth?
- NVQ lefel III neu gymwysterau cyfatebol a phrofiad:
- Glynu at MOPI, y Ddeddf Diogelu Data (DPA), Model Cudd-wybodaeth Genedlaethol, Cynllun Marcio Amddiffynnol y Llywodraeth (GPMS) er mwyn sicrhau uniondeb marciau amddiffynnol ar ddogfennau a defnyddio a chadw cudd-wybodaeth yn gyfreithlon ac yn gyfiawn. Cael cyngor a gweithredu mewn modd cyfreithlon i sicrhau cydymffurfiaeth.
- Bod yn wybodus ac yn gymwys o ran holl systemau TG yr Heddlu, gan gynnwys Niche, PND, PNC, Delphi, a Microsoft Office. Meddu ar wybodaeth weithredol o brosesau dadansoddol er mwyn deall gallu pob system a sut y gellir eu defnyddio'n fwyaf effeithlon a gallu rhoi cyngor ac arweiniad i eraill ar sut i'w defnyddio pan fo angen.
- Bod â throsolwg o weithdrefnau a'r gallu i ddeall deddfwriaeth a Chanllawiau.
- Gallu profedig i gyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig i allu cyflwyno canfyddiadau.
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu gweledol ardderchog er mwyn hwyluso'r broses o gyflwyno data cymhleth mewn fformat syml a dealladwy.
- Bod â lefel uchel o sgiliau rhyngbersonol a'r gallu i ddelio â phobl ar bob lefel o'r sefydliad a Heddluoedd, asiantaethau a phartneriaid allanol er mwyn datblygu cyfnewid dwy ffordd o gudd-wybodaeth a gwybodaeth
- Bod yn frwdfrydig ac yn gallu defnyddio'ch menter eich hun gyda'r gallu i gynllunio a threfnu llwyth gwaith wrth weithio o dan bwysau mewn amgylchedd sy'n datblygu i ddiwallu anghenion gweithredol
- Rhaid i Ddeiliad y Swydd gadw cyfrinachedd a chadw ymddiriedaeth bob amser ac ar bob mater a gall fod yn ofynnol ar adegau i ymdrin â materion o natur sensitif a/neu gyfrinachol.
- Rhaid i ddeilydd y swydd gael ei Fetio gan y Rheolwyr a gall ddibynnu ar ble mae'r deiliad swydd wedi'i leoli a phwy sy'n gyfrifol am ei rôl fod yn destun gwiriadau fetio ychwanegol.
- Meddu trwydded yrru lawn yn ddymunol er mwyn galluogi teithio rhwng Ardaloedd Plismona Lleol/Adrannau/ asiantaethau allanol fel bo'r angen.
Beth yw ein manteision
Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac rydym yn darparu digon o gymorth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich rôl, ochr yn ochr â derbyn budd-daliadau fel:
- Bydd gan bob dechreuwr newydd ffrind/mentor i'ch cefnogi pan fyddwch yn ymuno
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 gŵyl banc
- Mynediad i gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd ar y safle
- Opsiwn i ddod yn aelod o UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus
- Gostyngiadau gan wahanol fanwerthwyr drwy'r Cynllun Golau Glas
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Gweithio Hybrid/Ystwyth (dibynnydd rôl)
- Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela, Ffisiotherapydd a Chefnogwyr Cymheiriaid Iechyd Meddwll a pheeidio ag anghofio ein ci lles
- Cynllun pensiwn
- Cyfleon gwaith hyblyg
- Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
- Darpariaeth salwch hael
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd â hyfforddiant pan ac os bydd angen.
Cymraeg
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 2, sy'n golygu eich bod yn gallu rhoi a gofyn am fanylion personol a gwybodaeth sylfaenol; i wneud ceisiadau syml a dweud ychydig o ymadroddion amdanoch chi'ch hun yn Gymraeg.
O fewn eich gwasanaeth 12 mis cyntaf bydd gofyn i chi gyrraedd sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 3.
Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd. Rydym yn anelu recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl gyda chyflyrau iechyd, am eu sgiliau a'u doniau. Gallwch fynegi ar eich ffurflen gais os ydych angen unrhyw gymorth neu addasiadau er mwyn gallu gwneud y swydd, neu er mwyn eich cynorthwyo chi gyda'ch cais.
Os ydych yn ymuno â ni gydag anabledd neu gyflwr meddygol, rydym yn anelu eich cynorthwyo chi fel y gallwch gyflawni eich rôl yn effeithiol. Os yw'n bosibl, gallwn drefnu addasiadau rhesymol fel y gallwch wneud hyn.
Sut ydych yn ymgeisio
Bydd y proffil swydd yn dweud y cyfan rydych angen ei wybod am y swydd a pha sgiliau fyddwch eu hangen i ymgeisio.
Mae llunio rhestr fer yn seiliedig ar eich datganiad i gefnogi eich cais. Sicrhewch eich bod yn dangos sut mae eich profiad, eich cymwysterau, eich sgiliau a'ch gallu yn bodloni'r meini prawf sylfaenol/arbennig a/neu ofynion hanfodol ar gyfer y rôl, gan roi tystiolaeth lle mae'n bosibl gydag enghreifftiau penodol.
Dyddiad cau: 11/04/2024
Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru:
SSF.Recruitment@northwales.police.uk neu 01492 804699.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.